Gellir cyflwyno cais ar-lein ar gyfer y rhan fwyaf o'n rhaglenni ôl-raddedig a addysgir drwy ein Porth Cyflwyno Ceisiadau am y 'Porth Dysgwr'. Mae proses ymgeisio wahanol ar gyfer rhai cyrsiau:

Y broses ymgeisio ôl-raddedig:

  • dewiswch y cwrs rydych chi am gyflwyno cais amdano - chwiliwch yn ein A-Z cyrsiau ôl-raddedig a addysgir
  • edrychwch ar ofynion mynediad y cwrs ar dudalen y cwrs.
  • gwnewch yn siŵr bod gennych eich holl ddogfennau ategol yn barod – gweler ein 'rhestr wirio o ddogfennau' isod. Efallai y caiff eich cais ei oedi neu ei dynnu'n ôl os byddwch yn methu â darparu'r holl ddogfennau angenrheidiol.
  • Cyflwynwch gais ar-lein
  • ar ôl i chi gyflwyno eich cais, byddwch yn derbyn e-bost sy'n cynnwys eich rhif myfyriwr. Rhaid cadw hwn mewn man diogel a'i ddefnyddio ym mhob gohebiaeth gyda ni yn y dyfodol.
  • bydd y tîm dethol perthnasol yn ystyried eich cais. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen unrhyw wybodaeth ychwanegol.
  • rydym yn ceisio gwneud penderfyniad ar eich cais cyn gynted â phosibl. Os ydych wedi cwblhau eich ffurflen gais yn llawn ac wedi cyflwyno'r dogfennau ategol angenrheidiol, fel arfer bydd hynny ymhen 5 niwrnod gwaith.
  • byddwch yn derbyn e-bost pan fydd penderfyniad wedi'i wneud ar eich cais: Bydd hyn yn eich cyfeirio at eich llythyr cynnig ac yn eich galluogi i ymateb ar unwaith.

Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais:

Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais - Prifysgol Abertawe

Rydym yn annog ac yn croesawu myfyrwyr o bob cefndir

Cwestiynau Cyffredin Ynghylch Cyflwyno Cais Am Gwrs Ôl-raddedig A Addysgir