Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r PhD mewn Peirianneg Awyrofod - Dysgu o Bell yn ddarostyngedig i'r un rheoliadau yn y Brifysgol â'r rhaglen PhD arferol, heblaw am y ffaith y gellir cynnal pob cyfarfod â'r goruchwylwyr academaidd ac aelodau perthnasol eraill o staff Prifysgol Abertawe ar-lein. Mae croeso i'r myfyriwr ymweld â Phrifysgol Abertawe ond nid oes rhaid gwneud hyn oni bai y rhoddir cyfarwyddyd arall neu mewn amgylchiadau pan fydd angen presenoldeb ar y campws.
Dyddiadau dechrau: PhD/MPhil - 1 Hydref, 1 Ionawr, 1 Ebrill a 1 Gorffennaf.
Mae ein technoleg sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang wedi cyfrannu at nifer o brosiectau cyffrous, gan gynnwys aerodynameg y car sy'n dal record cyflymder tir y byd ar hyn o bryd, Thrust SSC, a'r car a fydd yn dal y record yn y dyfodol, a dylunio’r uwch-jet deulawr, Airbus A380.
Mae ymchwil ym maes peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe yn amlddisgyblaethol ei natur, gan gynnwys ein cryfderau mewn meysydd ymchwil ar draws y disgyblaethau peirianneg.
Mae mecaneg yn sail i'r rhan fwyaf o brosiectau PhD ac MPhil yn y disgyblaethau peirianneg hyn.
Mae Prifysgol Abertawe'n darparu sylfaen ardderchog ar gyfer eich ymchwil fel myfyriwr PhD neu MPhil mewn Peirianneg Awyrofod.
Dyma rai o deitlau’r traethodau ymchwil PhD a gwblhawyd yn ddiweddar dan oruchwyliaeth ym maes Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe:
- Uncertainty Quantification for Complex Engineering Structures: Statics and Dynamics
- The Application of Composite Corrugated Panels to Morphing Aircraft
- On the Isogeometric Finite Element Method
- Design, Modelling and Optimisation of Morphing Structures for MALE UAVS
- Rolling contact fatigue detection via high frequency acoustic emission
- Development of Numerical Schemes to improve the efficiency of CFD Simulation of High Speed Viscous Aerodynamic Flows