Peirianneg Fecanyddol, MSc drwy Ymchwil

131 gorau yn y Byd (Peirianneg-Fecanyddol-Awyrenneg-Gweithgynhyrchu)

QS World University Rankings 2025

pic

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1 af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Drwy ein rhyngweithio agos gyda chwmnïau mawr fel Ford a chwmni dur Tata, yn ogystal â busnesau bach a chanolig, mae Prifysgol Abertawe yn cynnig sylfaen ardderchog ar gyfer eich ymchwil fel myfyriwr MSc drwy Ymchwil mewn Peirianneg Deunyddiau.

Ledled y Deyrnas Unedig a thramor, mae gwaith yn digwydd neu wedi digwydd yn ddiweddar ym Mhrifysgol Abertawe gyda chwmnïau fel:

Astra-Zeneca
British Aerospace
Qinetiq
GKN
Rolls-Royce
SKF
Freeport
One Steel
Barrick Gold

Mae ymchwil ym maes Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe yn amlddisgyblaethol ei natur, yn ymgorffori ein cryfderau mewn meysydd ymchwil ledled y disgyblaethau Peirianneg.

Mecaneg gyfrifiadurol yw sylfaen mwyafrif y prosiectau MSc drwy Ymchwil yn y disgyblaethau peirianneg hyn.