Dylunio Cynhyrchion ar sail Efelychu, MSc drwy Ymchwil

Mae gan efelychu cyfrifiadurol rôl bwysig ym maes Peirianneg

pic

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1 af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Gan ddefnyddio modelu mathemategol yn sail, mae dulliau cyfrifiadol yn darparu gweithdrefnau a all, gyda chymorth y cyfrifiadur, ganiatáu i ni ddatrys problemau cymhleth.

Mae gan y technegau rôl gynyddol yn y diwydiant.

Mae Prifysgol Abertawe wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwil ryngwladol ym maes peirianneg gyfrifiadol.

Roedd peirianwyr o fri rhyngwladol yn Abertawe yn arloesi o ran datblygu technegau rhifiadol, megis y dull elfennau cyfyngedig, a'r gweithdrefnau cyfrifiadol cysylltiedig sydd wedi hwyluso datrys llawer o broblemau peirianegol cymhleth.

Rydym wedi'n rancio:

  • 131 gorau yn y Byd (Peirianneg-Fecanyddol-Awyrenneg-Gweithgynhyrchu) (QS World University Rankings 2025)