Nodyn ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol ac Ewropeaidd:
gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut mae eich cymhwyster yn cymharu â’r gofynion mynediad academaidd sydd wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen Gofynion Mynediad Gwledydd Penodol.
Gofynion mynediad ar gyfer MSc drwy Ymchwil mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol yw gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch mewn Peirianneg Drydanol neu Electronig neu ddisgyblaeth berthnasol debyg mewn peirianneg yn y gwyddorau.
Rydym yn croesawu cynigion gan ddarpar fyfyrwyr o ledled y byd ac yn edrych am dystiolaeth o astudio blaenorol sy’n gyfwerth â’r anghenion derbyn a nodir uchod. Mae’r Swyddfa Mynediad Ôl-raddedig yn falch o’ch cynghori a yw eich cymwysterau’n addas i gael mynediad i’r cwrs yr hoffech ei astudio. E-bostiwch admissions@swansea.ac.uk am ragor o wybodaeth os gwelwch yn dda.
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, bydd angen i chi fod wedi pasio’n ddigonol mewn cymhwyster Iaith Saesneg derbyniol i wneud yn sicr y cewch y budd mwyaf o astudio yn Abertawe. Rydym yn ystyried ystod eang o gymwysterau, yn cynnwys Prawf Saesneg Prifysgol Abertawe Prawf IELTS y Cyngor Prydeinig (gyda sgôr isaf o 6.5 a 5.5. yn y ddau ran). Ceir rhestr lawn o brofion Saesneg derbyniol yma.
Yn ogystal â chymwysterau academaidd, gellir seilio penderfyniadau ynghylch
derbyn myfyrwyr ar ffactorau eraill, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig
i: safon y crynodeb/cynnig ymchwil, perfformiad yn ystod y cyfweliad, lefel
y gystadleuaeth am leoedd cyfyngedig a phrofiad proffesiynol perthnasol.
Angen Tystysgrif y Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS)
Mae’n ofynnol i ymgeiswyr o’r tu allan i’r DU/yr UE gael cymeradwyaeth ATAS
am y rhaglen astudio hon. Bydd tîm Derbyn Ymchwil Ôl-raddedig y Brifysgol yn
anfon manylion am sut i wneud cais ATAS at ymgeiswyr llwyddiannus. Gellir
gweld manylion pellach am gynllun ATAS ar dudalen we
Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd y Llywodraeth.
Gofyniad am eirda
Yn arferol, gofynnir am ddau eirda cyn y gallwn anfon ceisiadau i Diwtor
Derbyn rhaglenni ymchwil y Coleg/Ysgol i'w hystyried.
Caiff ceisiadau a dderbynnir heb ddau eirda wedi'u hatodi atynt eu gohirio
nes y derbynnir y geirda sy'n weddill. Sylwer y gall oedi hir wrth dderbyn y
geirda sy'n weddill arwain at ohirio'ch cais tan ddyddiad cychwyn/mis derbyn
posib diweddarach, o'i gymharu â'r dyddiad y rhestroch yn gychwynnol fel y
dyddiad dechrau o'ch dewis.
Efallai yr hoffech ystyried cysylltu â'ch canolwr (canolwyr) i'n cynorthwyo
wrth dderbyn y geirda sy'n weddill neu, fel arall, gallwch ohirio
cyflwyno'ch cais nes eich bod wedi dod o hyd i'ch geirda. Sylwer nad
cyfrifoldeb Swyddfa Derbyn y Brifysgol yw dod o hyd i'r geirda sy'n weddill
ar ôl i ni anfon e-bost cychwynnol at y canolwyr (canolwyr) a enwebwyd
gennych, gan ofyn am eirda ar eich rhan chi.
Gall y geirda hwn fod ar ffurf llythyr ar bapur pennawd swyddogol neu gellir
ei gyflwyno ar ffurflen geirda safonol y Brifysgol.
Cliciwch ar y ddolen hon i lawrlwytho ffurflen geirda'r Brifysgol.
Fel arall, gall canolwyr anfon geirda mewn e-bost o'u cyfrif e-bost gwaith.
Sylwer na ellir derbyn geirda a anfonir oddi wrth gyfrifon e-bost preifat,
(h.y. Hotmail, Yahoo, Gmail).
Gellir cyflwyno geirda i
pgradmissions@abertawe.ac.uk.