Nanodechnoleg, MSc drwy Ymchwil

Trosglwyddo technoleg o'r labordy i'r gweithle neu'r ganolfan iechyd

Electrical Lab

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1 af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Gyda enw da rhagorol am ymchwil ym maes Nanotechnoleg, mae Prifysgol Abertawe yn cynnig sylfaen ardderchog ar gyfer eich ymchwil fel myfyriwr MSc drwy Ymchwil ym maes Nanotechnoleg.

Ym Mhrifysgol Abertawe, mae pwyslais ein hymchwil ym maes nanotechnoleg ar ddatblygu ymchwil i’w gymhwyso a throsglwyddo technoleg o’r labordy i’r gweithle neu’r ganolfan iechyd.

Mae rhyngweithio gyda diwydiant yn elfen allweddol o strategaeth y ganolfan. Fel un o arweinwyr y byd ym maes ymchwil electroneg pŵer, telathrebu, nanotechnoleg a biometreg a modelu dyfeisiau nanoelectronig.

Caiff y rhaglen hon ei chynnal yng Nghampws y Bae, Prifysgol Abertawe o fis Medi 2015.