Nanoelectroneg, MSc drwy Ymchwil

Llun agos o fwrdd cylched

Llun agos o fwrdd cylched

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1 Hydref, 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf

Gyda'n henw da rhagorol am ymchwil mewn Nanotechnoleg, mae Prifysgol Abertawe yn darparu sylfaen ardderchog ar gyfer eich ymchwil fel myfyriwr MSc trwy Ymchwil mewn Nanotechnoleg.

Ym Mhrifysgol Abertawe, mae pwyslais ein hymchwil nanodechnoleg ar ddatblygu ymchwil a yrrir gan gymwysiadau ac ar drosglwyddo technoleg o'r labordy i'r gweithle neu'r ganolfan iechyd.

Mae rhyngweithio gyda byd diwydiant yn rhan allweddol o strategaeth y ganolfan. Rydym yn arwain y byd ym maes electroneg pŵer, telathrebu, nanodechnoleg ac ymchwil i fiometreg a modelu dyfeisiau nanoelectroneg.