Rhewlifeg, MSc drwy Ymchwil

Y 100 uchaf yn y Byd (Shanghai Ranking Safle Byd-eang Pynciau Academaidd 2024)

Greenland landscape

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: MSc trwy Ymchwil - 1af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Mae'r MSc trwy Ymchwil mewn Rhewloleg yn eich galluogi i ymgymryd â rhaglen unigol blwyddyn o ymchwil gyfoethog yn bersonol ac yn broffesiynol. Bydd eich prosiect ymchwil rhewlif yn cael ei ffurfio trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau fel seminarau, gweithdai, gweithgaredd labordy a gwaith maes, yn ogystal â'ch cyfranogiad yn un o'n grwpiau ymchwil sefydledig. Mae Prifysgol Abertawe yn birfysgol dan arweiniad ymchwil ac mae ein hadran yn gwneud cyfraniad sylweddol. Mae gwaith amrywiol ein prosiectau ymchwil cyfredol yn cynnwys:

  • Hybu defnyddio isotopau sefydlog mewn cylchoedd coed fel dangosyddion newid hinsawdd / amgylcheddol
  • Meintiad o gyfraniad y rhewlifoedd a'r taflenni iâ yn y gorffennol a'r dyfodol at gynnydd yn lefel y môr
  • Deall ymateb y biosffer at amrywiadau yn yr hinsawdd
  • Deall patrymau a phrosesau mudo rhyngwladol sy'n gysylltiedig â mudo gorfodi, ymfudo llafur a 'llif cymysg'
  • Dinasoedd a theori trefol, gan ganolbwyntio ar y rhyngwyneb rhwng daearyddiaeth ddynol ac athroniaeth gyfandirol

Rydym wedi'n rancio:

  • Y 100 uchaf yn y Byd (Shanghai Ranking Safle Byd-eang Pynciau Academaidd 2024)
  • 90% o’n hallbynnau ymchwil wedi cael eu cydnabod yn rhai sy'n arwain y byd ac sy'n rhagorol yn rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021
  • 100% yn arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021
  • Un o’r 201-250 o Raglenni Gorau yn y Byd (QS World University Rankings 2025)