Astudiaethau Americanaidd, MA drwy Ymchwil

Ymgymera â Phrosiect Ymchwil Sylweddol a Arweinir Gan dy Ddiddordebau

Llun o Cofeb Genedlaethol Mount Rushmore

Trosolwg o'r Cwrs

Mae MA drwy Ymchwil mewn Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol wedi'i arwain gan eich hoffterau a'ch diddordebau personol. 

Mae'n gymhwyster uchel ei barch a all eich rhoi ar y trywydd cywir ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd neu ehangu eich cyfleoedd i ddod o hyd i swydd mewn meysydd megis addysg, y llywodraeth neu'r sector preifat.

Bydd eich prosiect yn cymryd blwyddyn i'w gwblhau'n llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan amser. Mae'n addas os ydych yn awyddus i ymgymryd â gradd ymchwil gyntaf ar ddiwedd eich cyfnod o astudiaethau wedi'u haddysgu, neu os ydych yn ystyried ymgymryd â gwaith ymchwil pellach.

Byddwch yn cyflwyno thesis o hyd at 40,000 o eiriau, gan ddangos gwaith ymchwil gwreiddiol â chyfraniad sylweddol at y pwnc. Fe'i dilynir gan arholiad llafar yn seiliedig ar y thesis.

Caiff ein hamgylchedd ymchwil deinamig ei lywio gan aelodau o staff ymroddedig sydd oll yn ymchwilwyr gweithredol ag amrywiaeth eang o ddiddordebau ac arbenigeddau drwy ein Grwpiau Ymchwil:

  • Y Grŵp Ymchwil i Wrthdaro, Ailadeiladu a'r Cof (CRAM)
  • Yr Arsyllfa Polisi Cyffuriau Byd-eang (GDPO)
  • Astudiaethau Rhyngwladol, Gwrthdaro a Diogelwch (ISCAS)
  • Dadansoddi a Llywodraethu Gwleidyddol (PAG)

Mae'r arbenigedd hwn yn cynnwys:

  • rhyfel cartref America
  • polisi tramor yr UD
  • 'rhyfel ar gyffuriau' yr UD
  • gwleidyddiaeth a llywodraeth yr UD
  • Gwyliadwriaeth ac America drefol
  • ceidwadaeth Americanaidd
  • hanes milwrol America
  • llenyddiaeth, ffilm a diwylliant poblogaidd America yn yr 20fed ganrif

Ewch i'n tudalennau staff i gael gwybod mwy am ein harbenigedd ymchwil.

Fel myfyriwr ymchwil, mae'n ofynnol i chi fynychu cyrsiau sgiliau a hyfforddiant gwerthfawr. Cewch gyfle i wneud cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff yn ystod seminarau adrannol, ac yng nghynhadledd i Ôl-raddedigion.