Hanes yr Henfyd, MA drwy Ymchwil

Defnyddio'r gorffennol, i lywio dy ddyfodol

ancient history

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Mae MA drwy Ymchwil mewn Hanes yr Henfyd yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect ymchwil wedi'i arwain gan eich hoffterau a'ch diddordebau hanesyddol personol.

Bydd eich prosiect yn cymryd blwyddyn i'w gwblhau'n llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan amser. Mae'n addas os ydych yn awyddus i ymgymryd â gradd ymchwil gyntaf ar ddiwedd eich cyfnod o astudiaethau wedi'u haddysgu, neu os ydych yn ystyried ymgymryd â gwaith ymchwil pellach ar ffurf PhD.

Byddwch yn cyflwyno thesis o hyd at 40,000 o eiriau, gan ddangos gwaith ymchwil gwreiddiol â chyfraniad sylweddol at y maes pwnc. Fe'i dilynir gan arholiad llafar yn seiliedig ar y thesis.

Gallwch astudio pwnc sy'n gysylltiedig â hanes, diwylliant neu archaeoleg y byd clasurol, o Wlad Groeg Fyseneaidd i gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig.

Mae ein harbenigedd yn amrywio o ddiwylliannau ac ieithoedd hynafol yr Aifft, Gwlad Groeg a Rhufain, i hanes Ewrop ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif a dechrau'r unfed ganrif ar hugain. Mae ymchwil ein staff a'n hôl-raddedigion yn rhan annatod o fywyd yr adran, gan olygu bod Prifysgol Abertawe yn lle deinamig ac ysgogol i astudio.

Mae nifer o grwpiau ymchwil hefyd yn cynnig ffocws a chymuned i aelodau o staff ac ôl-raddedigion:

  • Y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Canoloesol a'r Cyfnod Modern Cynnar (MEMO)
  • Y Ganolfan Ymchwil i'r Rhywiau mewn Diwylliant a Chymdeithas (GENCAS)


Gan weithio ar lefel academaidd elitaidd, cewch eich cyflwyno i gysyniadau allweddol a thechnegau dehongli sy'n llywio’r broses o astudio gwareiddiadau hynafol yn y byd modern.

Byddwch yn meithrin ac yn mireinio'r sgiliau ymchwil sydd eu hangen ar gyfer gwaith lefel uchel mewn unrhyw faes sy'n gysylltiedig â hanes yr henfyd, ac mae'r rhaglenni sgiliau a hyfforddiant sydd ar gael ar y campws yn cynnig cymorth pellach.

Fel myfyriwr ymchwil, mae'n ofynnol i chi fynychu cyrsiau sgiliau a hyfforddiant gwerthfawr. Cewch gyfle i wneud cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff yn ystod seminarau adrannol, ac yng nghynhadledd i Ôl-raddedigion.