Astudiaethau'r Cyfryngau, MA drwy Ymchwil

Gallwch wneud prosiect sylweddol ar y Cyfryngau

Student stood in library

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Mae MA drwy Ymchwil yn y Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol ym maes y cyfryngau wedi'i arwain gan eich hoffterau a'ch diddordebau personol.

Mae'n gymhwyster uchel ei barch a all eich rhoi ar y trywydd cywir ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd neu ehangu eich cyfleoedd i ddod o hyd i swydd mewn meysydd megis addysg, y llywodraeth neu'r sector preifat.

Bydd eich prosiect yn cymryd blwyddyn i'w gwblhau'n llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan amser. Mae'n addas os ydych yn awyddus i ymgymryd â gradd ymchwil gyntaf fel elfen ar wahân ar ddiwedd eich cyfnod o astudiaethau wedi'u haddysgu, neu os ydych yn ystyried ymgymryd â gwaith ymchwil pellach ond nad ydych yn siŵr p'un a ddylech ymrwymo i PhD llawn.

Byddwch yn cyflwyno thesis o hyd at 40,000 o eiriau, gan ddangos gwaith ymchwil gwreiddiol. Fe'i dilynir gan arholiad llafar yn seiliedig ar y thesis (arholiad viva voce, neu viva).

Byddwch yn cytuno ar eich prosiect drwy ymgynghori â goruchwylwyr ac rydym yn argymell y dylid dechrau'r trafodaethau hyn cyn gwneud cais, er mwyn helpu i lunio cynnig cychwynnol.

Mae ein staff yn aelodau o'r grŵp ymchwil, Canolfan y Celfyddydau a'r Dyniaethau Digidol (CODAH) ac mae ein harbenigedd yn cynnwys y canlynol:

  • Astudiaethau Ffilm, yn arbennig sinema Ewropeaidd a Hollywood
  • Y cyfryngau byd-eang, newyddiaduraeth a chyfathrebu rhyngwladol
  • Y cyfryngau digidol ac actifiaeth gymdeithasol
  • Mudo a chyfathrebu
  • Y cyfryngau digidol a hanes ac athroniaeth technoleg 

Cewch eich goruchwylio'n agos gan ddau academydd profiadol ag arbenigedd perthnasol drwy gydol eich prosiect. Fel rhan o'r broses, cynhelir cyfarfodydd bob pythefnos yn ystod eich tymor cyntaf a chynhelir cyfarfodydd ar gyfnodau rheolaidd y cytunir arnynt wedi hynny.

Byddwch yn meithrin ac yn mireinio'r sgiliau ymchwil sydd eu hangen ar gyfer gwaith lefel uchel ym maes y cyfryngau a chyfathrebu, ac mae'r rhaglenni sgiliau a hyfforddiant sydd ar gael ar y campws yn cynnig cymorth pellach. Cewch gyfle i wneud cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff yn ystod seminarau adrannol, ac yng nghynhadledd Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau i Ôl-raddedigion.