Cyfryngau Digidol, M.Phil.

Ehangwch eich Cwmpas Cyflogaeth gydag MPhil yn y Cyfryngau Digidol

Myfyrwyr yn ffilmio yn y stiwdio

Trosolwg o'r Cwrs

Mae MPhil yn y Cyfryngau Digidol yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol wedi'i arwain gan eich hoffterau a'ch diddordebau personol.

Mae'n gymhwyster uchel ei barch a all eich rhoi ar y trywydd cywir ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd, neu ehangu eich cyfleoedd i ddod o hyd i swydd mewn meysydd megis addysg, y llywodraeth neu'r sector preifat.

Bydd cymhwyster MPhil yn cymryd dwy flynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu bedair blynedd yn rhan amser.

Byddwch yn cyflwyno thesis o hyd at 60,000 o eiriau, gan ddangos gwaith ymchwil gwreiddiol. Fe'i dilynir gan arholiad llafar yn seiliedig ar y thesis (arholiad viva voce, neu viva).

Mae ein staff Cyfryngau Digidol yn aelodau o'r grŵp ymchwil, Canolfan y Celfyddydau a'r Dyniaethau Digidol (CODAH), ac mae ein cryfderau ymchwil yn cynnwys y canlynol:

  • y cyfryngau a damcaniaeth ddiwylliannol
  • hanes ac athroniaeth technoleg y cyfryngau
  • y cyfryngau newydd
  • datblygiadau cyfoes yn y cyfryngau digidol yn y DU, tir mawr Ewrop, UDA a Tsieina
  • cyfryngau a newyddiaduraeth fyd-eang

Byddwch yn cytuno ar eich prosiect drwy ymgynghori â goruchwylwyr ac rydym yn argymell y dylid dechrau'r trafodaethau hyn cyn gwneud cais, er mwyn helpu i lunio cynnig cychwynnol.

Cewch eich goruchwylio'n agos gan ddau academydd profiadol ag arbenigedd perthnasol drwy gydol eich prosiect. Fel rhan o'r broses, cynhelir cyfarfodydd bob pythefnos yn ystod eich tymor cyntaf a chynhelir cyfarfodydd ar gyfnodau rheolaidd y cytunir arnynt wedi hynny.

Byddwch yn meithrin ac yn mireinio'r sgiliau ymchwil sydd eu hangen ar gyfer gwaith lefel uchel mewn unrhyw faes sy'n gysylltiedig â'r cyfryngau digidol, ac mae'r rhaglenni sgiliau a hyfforddiant sydd ar gael ar y campws yn cynnig cymorth pellach. Cewch gyfle i wneud cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff yn ystod seminarau adrannol, ac yng nghynhadledd Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu i Ôl-raddedigion.


Mae'n bosibl y cewch gyfle hefyd i addysgu tiwtorialau a seminarau i israddedigion o'r ail flwyddyn, a chewch hyfforddiant a thâl am wneud hynny. Darperir cymorth ariannol hefyd (yn amodol ar gymeradwyaeth) er mwyn mynychu cynadleddau neu gynnal gweithgareddau ymchwil nad ydynt yn Abertawe.