Cymraeg, Ph.D. / M.Phil.

Ymchwiliwch i'ch diddordebau personol a'r hyn sy'n tanio'ch brwdfrydedd

Myfyriwr yn sgwrsio yn y caffi

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Mae PhD neu MPhil mewn Cymraeg yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect ymchwil sylweddol wedi'i arwain gan eich hoffterau a'ch diddordebau personol.

Mae'n arwain at gymhwyster uchel ei barch a all eich rhoi ar y trywydd cywir ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd, neu ehangu eich cyfleoedd i ddod o hyd i swydd mewn meysydd megis addysg, cyrff llywodraethol neu'r sector preifat.

Mae'r PhD yn cymryd tair blynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu chwe blynedd yn rhan amser, ac mae'r MPhil yn cymryd dwy flynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu bedair blynedd yn rhan amser.

Mae arbenigeddau ymchwil Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnwys y canlynol:

  • Dwyieithrwydd a chynllunio iaith
  • Damcaniaeth llenyddiaeth
  • Technegau a thechnoleg cyfieithu
  • Llenyddiaeth dros y canrifoedd
  • Cymraeg i oedolion a chaffael iaith
  • Hanes Cyfreithiol a Chymdeithasol
  • Y Gyfraith ac Ieithoedd Lleiafrifol
  • Datganoli
  • Drama, ffilm, animeiddio, darlledu a'r cyfryngau digidol


Byddwch yn cytuno ar eich prosiect drwy ymgynghori â goruchwylwyr ac rydym yn argymell y dylid dechrau'r trafodaethau hyn cyn gwneud cais, er mwyn helpu i lunio cynnig cychwynnol.

Cewch eich goruchwylio'n agos gan ddau academydd profiadol ag arbenigedd perthnasol drwy gydol y prosiect. Gwneir hyn ar ffurf cyfarfodydd bob pythefnos yn ystod eich tymor cyntaf a chynhelir cyfarfodydd ar gyfnodau rheolaidd y cytunir arnynt wedi hynny.

Byddwch yn meithrin ac yn mireinio'r sgiliau ymchwil sydd eu hangen ar gyfer gwaith lefel uchel mewn unrhyw faes sy'n gysylltiedig â Chymraeg, ac mae'r rhaglenni sgiliau a hyfforddiant sydd ar gael ar y campws yn cynnig cymorth pellach. Cewch gyfle i wneud cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff yn ystod seminarau adrannol, ac yng nghynhadledd i Ôl-raddedigion.

Mae'n bosibl y cewch gyfle hefyd i addysgu tiwtorialau a seminarau i israddedigion o'r ail flwyddyn, a chewch hyfforddiant a thâl am wneud hynny. Darperir cymorth ariannol hefyd (yn amodol ar gymeradwyaeth) er mwyn mynychu cynadleddau neu gynnal gweithgareddau ymchwil nad ydynt yn Abertawe.