Hanes, Ph.D. / M.Phil.

Defnyddio'r gorffennol, i lywio dy ddyfodol

Myfyrwyr yn siarad yn y parc

Trosolwg o'r Cwrs

Mae PhD neu MPhil mewn Hanes yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol wedi'i arwain gan eich hoffterau a'ch diddordebau personol.

Mae'r PhD yn cymryd tair blynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu chwe blynedd yn rhan amser, ac mae'r MPhil yn cymryd dwy flynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu bedair blynedd yn rhan amser.

Byddwch yn cyflwyno thesis o hyd at 100,000 o eiriau ar gyfer asesiad PhD a 60,000 o eiriau ar gyfer asesiad MPhil. Fe'i dilynir gan arholiad llafar yn seiliedig ar y thesis (arholiad viva voce, neu viva).

Yn y ddwy raglen, byddwch yn ymgymryd â gwaith ymchwil gwreiddiol, o dan oruchwyliaeth ein harbenigwr, gan lunio thesis a fydd yn gwneud cyfraniad gwreiddiol at ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o'r gorffennol.

Rydym yn arbenigo mewn Hanes Canoloesol, Hanes Modern Cynnar a Hanes Modern, gan gynnwys Hanes Prydain, Ewrop a'r Byd. Mae ymchwil ein staff a'n hôl-raddedigion yn rhan annatod o fywyd yr adran, gan olygu bod Prifysgol Abertawe yn lle deinamig ac ysgogol i astudio.

Mae'r Adran Hanes yn trefnu nifer fawr o seminarau, cynadleddau a gweithgareddau ymchwil eraill y gallwch eu mynychu er mwyn gwella eich prosiect ymchwil.

Mae nifer o grwpiau ymchwil hefyd yn cynnig ffocws a chymuned i aelodau o staff ac ôl-raddedigion:

  • Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton
  • Y Grŵp Ymchwil i Iechyd, Hanes a Diwylliant (HHCRG)
  • Y Grŵp Ymchwil i Wrthdaro, Ailadeiladu a'r Cof (CRAM)
  • Y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Ganoloesol a'r Cyfnod Modern Cynnar (MEMO)
  • Y Ganolfan Ymchwil i'r Rhywiau mewn Diwylliant a Chymdeithas (GENCAS)

Byddwch yn meithrin ac yn mireinio'r sgiliau ymchwil sydd eu hangen ar gyfer gwaith lefel uchel ym maes hanes, ac mae'r rhaglenni sgiliau a hyfforddiant sydd ar gael ar y campws yn cynnig cymorth pellach. Cewch gyfle i wneud cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff yn ystod seminarau adrannol, ac yng nghynhadledd.

Mae'n bosibl y cewch gyfle hefyd i addysgu tiwtorialau a seminarau i israddedigion o'r ail flwyddyn, a chewch hyfforddiant a thâl am wneud hynny. Darperir cymorth ariannol hefyd (yn amodol ar gymeradwyaeth) er mwyn mynychu cynadleddau neu gynnal gweithgareddau ymchwil nad ydynt yn Abertawe.