Ieithoedd Modern, MA drwy Ymchwil

Ehangwch eich Cyfleoedd Cyflogaeth gyda MA drwy Ymchwil mewn Ieithoedd Modern

Linguistics description

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Mae MA drwy Ymchwil mewn Ieithoedd Modern yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol wedi'i arwain gan eich hoffterau a'ch diddordebau personol, heb ymrwymo i PhD.

Mae'n gymhwyster uchel ei barch a all eich rhoi ar y trywydd iawn i yrfa yn y byd academaidd neu ehangu eich cyfleoedd i ddod o hyd i swydd mewn meysydd megis addysg, y llywodraeth neu'r sector preifat.

Bydd eich prosiect yn cymryd blwyddyn i'w gwblhau'n llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser. Mae'n addas os ydych yn awyddus i ymgymryd â gradd ymchwil gyntaf fel elfen ar wahân ar ddiwedd eich cyfnod o astudiaethau wedi'u haddysgu, neu os ydych yn ystyried ymgymryd â gwaith ymchwil pellach ar ffurf PhD.

Byddwch yn ymgymryd â gwaith ymchwil gwreiddiol, dan oruchwyliaeth ein harbenigwyr, a fydd yn arwain at lunio traethawd ymchwil a fydd yn gwneud cyfraniad gwreiddiol at ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o ieithoedd modern.

Mae Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Abertawe'n cynnwys Arabeg, Tsieinëeg Fandarin, Ffrangeg, Almaeneg ac Astudiaethau Hisbanaidd, a cheir cryfderau ymchwil mewn diwylliant ysgrifenedig, sinema Ewropeaidd, cyfieithu a chyfieithu ar y pryd.

Mae gennym arbenigedd iaith mewn Eidaleg, Catalaneg a Phortiwgaleg, ond nid yw gwybodaeth ddatblygedig o iaith yn un o'n gofynion mynediad, gan ddibynnu ar y pwnc a ddewisir gennych. Gellir ymgymryd â'r gwaith ymchwil sy'n gysylltiedig â rhai prosiectau cymharu ym maes llenyddiaeth a ffilm gan ddefnyddio cyfieithiadau Saesneg.

Rydym yn cefnogi'r grwpiau a'r canolfannau ymchwil canlynol, ac mae llawer o'n myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig wedi'u lleoli ynddynt:

  • Canolfan y Celfyddydau a'r Dyniaethau Digidol (CODAH)
  • Astudiaethau i Gymharu Portiwgal, Sbaen a'r Americas (CEPSAM)
  • Diwylliant Cyfoes yr Almaen (CCGC)
  • Y Rhywiau mewn Diwylliant a Chymdeithas (GENCAS)


Cewch eich goruchwylio'n agos gan ddau academydd profiadol ag arbenigedd perthnasol drwy gydol eich prosiect. Fel rhan o'r broses, cynhelir cyfarfodydd bob pythefnos yn ystod eich tymor cyntaf a chynhelir cyfarfodydd ar gyfnodau rheolaidd y cytunir arnynt wedi hynny.

Byddwch yn meithrin ac yn mireinio'r sgiliau ymchwil sydd eu hangen ar gyfer gwaith lefel uchel ym maes ieithoedd modern, ac mae'r rhaglenni sgiliau a hyfforddiant sydd ar gael ar y campws yn cynnig cymorth pellach. Cewch gyfle i roi cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff mewn seminarau adrannol, ac yng nghynhadledd yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu i Ôl-raddedigion.