Cyfieithu, Ph.D. / M.Phil.

Ehangwch eich Cyfleoedd Cyflogaeth gyda PhD/MPhil mewn Cyfieithu

Myfyriwr mewn labordy iaith

Trosolwg o'r Cwrs

Mae PhD neu MPhil mewn Cyfieithu yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol wedi'i arwain gan eich hoffterau a'ch diddordebau personol.

Mae'n gymhwyster uchel ei barch a all eich rhoi ar y trywydd cywir ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd, neu ehangu eich cyfleoedd i ddod o hyd i swydd mewn meysydd megis cyfieithu, ieithyddiaeth, addysg, y llywodraeth neu'r sector preifat.

Mae'r radd PhD yn cymryd tair blynedd i'w chwblhau'n llawn amser neu chwe blynedd yn rhan-amser, ac mae'r radd MPhil yn cymryd dwy flynedd i'w chwblhau'n llawn amser neu bedair blynedd yn rhan-amser.

Byddwch yn cyflwyno thesis o hyd at 100,000 o eiriau ar gyfer asesiad PhD a hyd at 60,000 o eiriau ar gyfer asesiad MPhil, gan ddangos gwaith ymchwil gwreiddiol â chyfraniad sylweddol at y maes pwnc.

Mae gwaith ymchwil deinamig yn ein hadran wedi denu sylw a chyllid gan gyrff allanol, gan gynnwys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC), Ymddiriedolaeth Wellcome a'r UE.
Rydym yn cefnogi'r grwpiau a'r canolfannau ymchwil canlynol, ac mae llawer o'n myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig wedi'u lleoli ynddynt:

  • Canolfan y Celfyddydau a'r Dyniaethau Digidol (CODAH)
  • Astudiaethau i Gymharu Portiwgal, Sbaen a'r Americas (CEPSAM)
  • Diwylliant Cyfoes yr Almaen (CCGC)
  • Y Ganolfan Ymchwil Iaith (LRC)

Rydym yn gwahodd cynigion ar amrywiol bynciau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, ond mae gennym ddiddordeb arbennig mewn Arabeg, Tsieinëeg, Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg a Chymraeg.

Byddwch yn meithrin ac yn mireinio'r sgiliau ymchwil sydd eu hangen ar gyfer gwaith lefel uchel ym maes ieithoedd modern, cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, ac mae'r rhaglenni sgiliau a hyfforddiant sydd ar gael ar y campws yn cynnig cymorth pellach. Cewch gyfle i roi cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff mewn seminarau adrannol, ac yng nghynhadledd yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu i Ôl-raddedigion.

Mae'n bosibl y cewch gyfle hefyd i addysgu tiwtorialau a seminarau i israddedigion o'r ail flwyddyn, a chewch hyfforddiant a thâl am wneud hynny. Darperir cymorth ariannol hefyd (yn amodol ar gymeradwyaeth) er mwyn mynychu cynadleddau neu gynnal gweithgareddau ymchwil nad ydynt yn Abertawe.