Llenyddiaeth Saesneg, Ph.D. / M.Phil.

Cyfranna at Gymuned Ymchwil Ffyniannus Drwy Ymgymryd ag Ymchwil Wreiddiol

Myfyrwyr sy'n astudio yn y llyfrgell

Trosolwg o'r Cwrs

Mae PhD neu MPhil mewn Llenyddiaeth Saesneg yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol sylweddol, a ddylai fod o safon ddigon da i'w gyhoeddi.

Mae'r PhD yn cymryd tair blynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu chwe blynedd yn rhan amser, ac mae'r MPhil yn cymryd dwy flynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu bedair blynedd yn rhan amser.

Byddwch yn cyflwyno thesis o hyd at 100,000 o eiriau ar gyfer asesiad PhD a 60,000 o eiriau ar gyfer asesiad MPhil, gan ddangos gwaith ymchwil gwreiddiol â chyfraniad sylweddol at y maes pwnc. Fe'i dilynir gan arholiad llafar yn seiliedig ar y thesis (arholiad viva voce, neu viva).

Mae nifer o grwpiau ymchwil hefyd yn cynnig ffocws a chymuned i aelodau o staff ac ôl-raddedigion:

  • y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Canoloesol a'r Cyfnod Modern Cynnar (MEMO)
  • y Ganolfan Ymchwil i'r Rhywiau mewn Diwylliant a Chymdeithas (GENCAS)
  • Canolfan Ymchwil Llenyddiaeth a Iaith Saesneg yng Nghymru (CREW)

Rydym yn cynnig goruchwyliaeth yn y rhan fwyaf o feysydd llenyddiaeth o'r canol oesoedd hyd at y presennol. Mae ein cryfderau ymchwil penodol yn cynnwys y canlynol:

  • Ysgrifennu Cymreig yn yr iaith Saesneg
  • Llenyddiaeth Americanaidd
  • Rhywedd
  • Ysgrifennu a diwylliant y Canol Oesoedd, Y Dadeni, y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg
  • Moderniaeth ac ôl-foderniaeth
  • Barddoniaeth Wyddelig
  • Llenyddiaeth gyfoes
  • Damcaniaeth gritigol a diwylliannol
  • Ffuglen Wyddonol ac Ecoleg/Amgylcheddaeth
  • Astudio Pobl ac Anifeiliaid

Byddwch yn cytuno ar eich prosiect drwy ymgynghori â goruchwylwyr ac rydym yn argymell y dylid dechrau'r trafodaethau hyn cyn gwneud cais, er mwyn helpu i lunio cynnig cychwynnol.

Cewch eich goruchwylio'n agos gan ddau academydd profiadol ag arbenigedd perthnasol drwy gydol y prosiect.

Nid addysgir unrhyw ddosbarthiadau PhD, ond gallwch wneud cais i fynychu modiwlau MA sy'n berthnasol i'ch thesis. Fel arfer, byddwch yn ymgymryd â nifer o astudiaethau ymchwil unigol ond cysylltiedig a fydd, yn y pen draw, yn darparu sail ar gyfer eich traethawd hir.

Byddwch yn meithrin ac yn mireinio'r sgiliau ymchwil sydd eu hangen ar gyfer gwaith lefel uchel mewn unrhyw faes sy'n gysylltiedig â Llenyddiaeth Saesneg, ac mae'r rhaglenni sgiliau a hyfforddiant sydd ar gael ar y campws yn cynnig cymorth pellach. Cewch gyfle i wneud cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff yn ystod seminarau adrannol, ac yng nghynhadledd Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau i Ôl-raddedigion.

Mae'n bosibl y cewch gyfle hefyd i addysgu tiwtorialau a seminarau i israddedigion o'r ail flwyddyn, a chewch hyfforddiant a thâl am wneud hynny. Darperir cymorth ariannol hefyd (yn amodol ar gymeradwyaeth) er mwyn mynychu cynadleddau neu gynnal gweithgareddau ymchwil nad ydynt yn Abertawe.