Ysgrifennu Creadigol, Ph.D. / M.Phil.

Ymuna â Chymuned Ymchwil Ffyniannus Drwy Gynnal dy Brosiect Ymchwil dy Hun

Myfyrwyr yn mwynhau eu hastudiaethau yn y llyfrgell

Trosolwg o'r Cwrs

Mae PhD neu MPhil mewn Ysgrifennu Creadigol yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect annibynnol sylweddol, a ddylai fod o safon ddigon da i'w gyhoeddi.

Mae'r PhD yn cymryd tair blynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu chwe blynedd yn rhan amser, ac mae'r MPhil yn cymryd dwy flynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu bedair blynedd yn rhan amser.

Caiff eich gwaith ei asesu mewn dwy ran: gwaith creadigol hyd llyfr, a thraethawd beirniadol. Gall y gwaith creadigol fod ar ffurf:

  • nofel, neu
  • casgliad o ffuglen fer, neu
  • detholiad o farddoniaeth, neu
  • cerdd hir, neu
  • drama ar gyfer y llwyfan neu'r radio (neu'r ddau), neu
  • gwaith ffeithiol creadigol.

Hyd

  • Dylai darn o waith ffuglen ryddiaith neu ddarn o waith ffeithiol creadigol fod rhwng 80,000 a 10,000 o eiriau.
  • Dylai'r traethawd beirniadol fod hyd at 10,000 o eiriau.
  • Dylai detholiad o gerddi neu gerdd hir fod hyd at 10,000 o eiriau (sy'n cyfateb yn fras i gasgliad o 50 o gerddi).
  • Dylai gwaith drama fod ar ffurf drama dwy act wedi'u creu'n llawn, sy'n addas i'w chynhyrchu, gyda phob act yn para tua awr yr un.

Fe'i dilynir gan arholiad llafar yn seiliedig ar y thesis (arholiad viva voce, neu viva).

Gallwch ddatblygu eich crefft drwy sbectrwm o sgiliau a phynciau o farddoniaeth a ffuglen i ddramayddiaeth a sgriptio.

Bydd awduron o'r radd flaenaf sy'n meddu ar brofiad helaeth yn cefnogi eich astudiaethau. Caiff pob myfyriwr ymchwil sy'n rhan o'n cymuned agos ei oruchwylio gan awdur-athro arbenigol a'i gefnogi gan ail awdur-oruchwylydd. Cynhelir cyfarfodydd un-i-un bob tair i bedair wythnos, neu ar gais y myfyriwr, a chynhelir gweithdai methodoleg ysgrifennu creadigol misol.

Mae'r gweithdai hyn yn cynnig cyfle gwerthfawr i roi a derbyn adborth adeiladol ar waith ysgrifennu a gaiff ei ddosbarthu cyn y sesiynau.

Byddwch yn cytuno ar eich prosiect drwy ymgynghori â goruchwylwyr ac rydym yn argymell y dylid dechrau'r trafodaethau hyn cyn gwneud cais, er mwyn helpu i lunio cynnig cychwynnol.

Byddwch yn meithrin ac yn mireinio'r sgiliau ymchwil sydd eu hangen ar gyfer gwaith lefel uchel mewn unrhyw faes sy'n gysylltiedig ag ysgrifennu creadigol, ac mae'r rhaglenni sgiliau a hyfforddiant sydd ar gael ar y campws yn cynnig cymorth pellach. Cewch gyfle i wneud cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff yn ystod seminarau adrannol, ac yng nghynhadledd Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau i Ôl-raddedigion.

Mae'n bosibl y cewch gyfle hefyd i addysgu tiwtorialau a seminarau i israddedigion o'r ail flwyddyn, a chewch hyfforddiant a thâl am wneud hynny. Darperir cymorth ariannol hefyd (yn amodol ar gymeradwyaeth) er mwyn mynychu cynadleddau neu gynnal gweithgareddau ymchwil nad ydynt yn Abertawe.