Addysg, Ph.D. / Ph.D. Dysgu o Bell / M.Phil.

Ymgymryd â phrosiect ymchwil sylweddol a arweinir gan eich diddordebau personol

Plant yn yr ystafell ddosbarth

Trosolwg o'r Cwrs

Mae PhD neu MPhil mewn Addysg yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect ymchwil sylweddol wedi'i arwain gan eich hoffterau a'ch diddordebau personol. 

Mae'r rhaglen PhD yn cymryd tair blynedd i'w chwblhau'n llawn amser neu chwe blynedd yn rhan amser, ac mae'r rhaglen MPhil yn cymryd dwy flynedd i'w chwblhau'n llawn amser neu bedair blynedd yn rhan amser.

Byddwch yn cyflwyno thesis o hyd at 100,000 o eiriau ar gyfer asesiad PhD a 60,000 o eiriau ar gyfer asesiad MPhil, gan ddangos gwaith ymchwil gwreiddiol â chyfraniad sylweddol at faes Addysg. Fe'i dilynir gan arholiad llafar yn seiliedig ar y thesis (arholiad viva voce, neu viva).

Gan weithio ar lefel academaidd elitaidd, byddwch yn ymgymryd ag ymchwil gwreiddiol. Mae cryfderau ymchwil yr Ysgol yn cwmpasu chwe phrif faes o ysgolheictod:

  • Plentyndod cynnar
  • Sgiliau digidol
  • Ehangu cyfranogiad
  • Arweinyddiaeth
  • Dysgu Proffesiynol (gan gynnwys Anghenion Dysgu Ychwanegol)
  • Addysg athrawon
  • Cyfranogiad Rhieni a Theuluoedd mewn dysgu

Yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf yn 2021, roedd dros 81% o'r ymchwil mewn Addysg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol o ansawdd rhyngwladol neu o safon fyd-eang.

Mae gan bob aelod o staff academaidd Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe ddoethuriaeth ac maen nhw'n cynnal ymchwil. Mae proffil ymchwil yr adran yn cynrychioli diddordebau helaeth ym maes addysg, ac mae gan y rhai hynny sydd â swyddi uwch broffil ymchwil rhyngwladol â chofnod cryf o sicrhau incwm ymchwil. Mae'r rhan fwyaf o staff wedi goruchwylio myfyrwyr ôl-raddedig yn llwyddiannus i gwblhau eu graddau, ac mae ganddynt ystod o arbenigedd yn y ddisgyblaeth.

Byddwch yn meithrin ac yn mireinio'r sgiliau ymchwil sydd eu hangen ar gyfer gwaith lefel uchel ym maes Addysg, ac mae'r rhaglenni sgiliau a hyfforddiant sydd ar gael ar y campws yn cynnig cymorth pellach. Cewch gyfle i wneud cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff yn ystod seminarau adrannol.

Mae'n bosibl y cewch gyfle hefyd i addysgu tiwtorialau a seminarau i israddedigion o'r ail flwyddyn, a chewch hyfforddiant a thâl am wneud hynny.

Hefyd rydym yn cynnig Doethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg (EdD) ar gyfer y rhai a hoffai astudio addysg ar lefel ddoethurol ar sail ran-amser. Bydd nifer o fyfyrwyr cwrs EdD yn athrawon neu’n uwch-arweinwyr mewn ysgolion neu byddant yn gweithio ym maes addysg ehangach. Mae’r cwrs gradd EdD yn rhaglen a arweinir gan ymchwil sy’n cynnwys cyfnodau a addysgir a chyfnodau ymchwil sy’n cynnig cyfle i fyfyrwyr fynd i’r afael â materion ym maes addysg mewn ffordd broffesiynol a beirniadol wrth gael eu cefnogi gan academyddion y mae eu rhagoriaeth yn adnabyddus yn rhyngwladol. Darganfyddwch ragor yma.