Athroniaeth, MA drwy Ymchwil

Gradd hyblyg yn cynnig ystod eang o fodiwlau arbenigol

political studies

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Mae MA drwy Ymchwil mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol wedi'i arwain gan eich hoffterau a'ch diddordebau athronyddol personol.

Mae'n gymhwyster uchel ei barch a all eich rhoi ar y trywydd cywir ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd, neu ehangu eich cyfleoedd i ddod o hyd i swydd mewn meysydd megis addysg, y llywodraeth neu'r sector preifat.

Bydd eich prosiect yn cymryd blwyddyn i'w gwblhau'n llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan amser. Mae'n addas os ydych yn awyddus i ymgymryd â gradd ymchwil gyntaf fel elfen ar wahân ar ddiwedd eich cyfnod o astudiaethau wedi'u haddysgu, neu os ydych yn ystyried ymgymryd â gwaith ymchwil pellach.

Byddwch yn cyflwyno thesis o hyd at 40,000 o eiriau, gan ddangos gwaith ymchwil gwreiddiol â chyfraniad sylweddol at y pwnc. Fe'i dilynir gan arholiad llafar yn seiliedig ar y thesis (arholiad viva voce, neu viva).

Caiff ein hamgylchedd ymchwil deinamig ei lywio gan aelodau o staff ymroddedig sydd oll yn ymchwilwyr gweithredol ag amrywiaeth eang o ddiddordebau ac arbenigeddau.

Mae'r arbenigedd hwn yn cynnwys:

  • Athroniaeth wleidyddol a moesol
  • Moeseg neo-Kantaidd
  • Hawliau dynol
  • Damcaniaeth rhyfel gyfiawn a moeseg ryngwladol
  • Anthropoleg athronyddol
  • Ôl-wladychiaeth a Dwyreinioldeb

Fel myfyriwr ymchwil, mae'n ofynnol i chi fynychu cyrsiau sgiliau a hyfforddiant. Byddwch yn gwneud cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff yn ystod seminarau adrannol, ac yng nghynhadledd i Ôl-raddedigion.