Gwleidyddiaeth, MA drwy Ymchwil

Ymgymera ag ymchwil a arweinir gan dy ddiddordebau

A group of smiling students

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Mae MA drwy Ymchwil mewn Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol wedi'i arwain gan eich hoffterau a'ch diddordebau personol.

Mae'n gymhwyster uchel ei barch a all eich rhoi ar y trywydd cywir ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd, neu ehangu eich cyfleoedd i ddod o hyd i swydd mewn meysydd megis addysg, y llywodraeth neu'r sector preifat.

Bydd eich prosiect yn cymryd blwyddyn i'w gwblhau'n llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan amser. Mae'n addas os ydych yn awyddus i ymgymryd â gradd ymchwil gyntaf fel elfen ar wahân ar ddiwedd eich cyfnod o astudiaethau wedi'u haddysgu, neu os ydych yn ystyried ymgymryd â gwaith ymchwil pellach.

Byddwch yn cyflwyno thesis o hyd at 40,000 o eiriau, gan ddangos gwaith ymchwil gwreiddiol â chyfraniad sylweddol at y pwnc. Fe'i dilynir gan arholiad llafar yn seiliedig ar y thesis (arholiad viva voce, neu viva).

Caiff ein hamgylchedd ymchwil deinamig ei lywio gan aelodau o staff ymroddedig sydd oll yn ymchwilwyr gweithredol ag amrywiaeth eang o ddiddordebau ac arbenigeddau drwy ein Grwpiau Ymchwil:

  • Yr Arsyllfa Polisi Cyffuriau Byd-eang (GDPO)
  • Astudiaethau Rhyngwladol, Gwrthdaro a Diogelwch (ISCAS)
  • Dadansoddi a Llywodraethu Gwleidyddol (PAG)


Mae pynciau arbenigedd gwleidyddol penodol yn cynnwys y canlynol, ond nid ydynt wedi'u cyfyngu i'r canlynol:

  • Llywodraethu a datblygiad rhyngwladol, gan gynnwys polisi ac arfer o ran rhoi cymorth
  • Hawliau dynol a datblygiad rhyngwladol
  • Polisi Tramor yr UD
  • Syniadaeth wleidyddol Ewropeaidd
  • Damcaniaeth ddemocrataidd
  • Datganoli
  • Etholiadau cymharol
  • Diwygio'r sector cyhoeddus
  • Gwleidyddiaeth ryddfrydol gymharol
  • Integreiddiad Ewropeaidd a gwleidyddiaeth a pholisïau'r Undeb Ewropeaidd

Fel myfyriwr ymchwil, mae'n ofynnol i chi fynychu cyrsiau sgiliau a hyfforddiant. Byddi di'n rhoi cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff mewn seminarau adrannol ac yn ein cynhadledd ôl-raddedig