Athroniaeth, Ph.D. / Ph.D. Dysgu o Bell / Ph.D. Distance Learning" / M.Phil.

Datblygu Sgiliau Ymchwil sydd eu Hangen ar gyfer Gwaith Lefel Uchel mewn Athroni

Talking heads

Trosolwg o'r Cwrs

Mae PhD neu MPhil mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol wedi'i arwain gan eich hoffterau a'ch diddordebau personol.

Mae'n gymhwyster uchel ei barch a all eich rhoi ar y trywydd cywir ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd, neu ehangu eich cyfleoedd i ddod o hyd i swydd mewn meysydd megis addysg, y llywodraeth neu'r sector preifat.

Mae'r radd PhD yn cymryd tair blynedd i'w chwblhau'n llawn amser neu chwe blynedd yn rhan amser, ac mae'r radd MPhil yn cymryd dwy flynedd i'w chwblhau'n llawn amser neu bedair blynedd yn rhan amser.

Byddwch yn cyflwyno thesis o hyd at 100,000 o eiriau ar gyfer asesiad PhD a 60,000 o eiriau ar gyfer asesiad MPhil, gan ddangos gwaith ymchwil gwreiddiol â chyfraniad sylweddol at y maes pwnc. Fe'i dilynir gan arholiad llafar yn seiliedig ar y thesis (arholiad viva voce, neu viva).

Caiff ein hamgylchedd ymchwil deinamig ei lywio gan aelodau o staff ymroddedig sydd oll yn ymchwilwyr gweithredol ag amrywiaeth eang o ddiddordebau ac arbenigeddau.

Mae gennym ni amrywiaeth eang o arbenigeddau perthnasol, gan gynnwys: damcaniaeth wleidyddol gyfoes; moeseg gymhwysol; ffenomenoleg; athroniaeth emosiynau; ffeministiaeth a gwleidyddiaeth rhywedd; a chyfiawnder economaidd.

Fel myfyriwr ymchwil, bydd yn ofynnol i chi fynychu cyrsiau sgiliau a hyfforddiant. Byddwch yn rhoi cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff mewn seminarau adrannol, ac yng nghynhadledd Ôl-raddedig Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.

Mae'n bosibl y cewch gyfle hefyd i addysgu tiwtorialau a seminarau i israddedigion o'r ail flwyddyn, a chewch hyfforddiant a thâl am wneud hynny. Darperir cymorth ariannol hefyd (yn amodol ar gymeradwyaeth) er mwyn mynychu cynadleddau neu gynnal gweithgareddau ymchwil nad ydynt yn Abertawe.