Cysylltiadau Rhyngwladol, M.Phil.

Datblygwch sgiliau ymchwil ar gyfer gwaith lefel uchel mewn Cysylltiadau Rhyngwl

Myfyrwyr y tu allan i'r Senedd yn Llundain

Trosolwg o'r Cwrs

Mae MPhil mewn Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol wedi'i arwain gan eich hoffterau a'ch diddordebau personol.

Mae'n gymhwyster uchel ei barch a all eich rhoi ar y trywydd cywir ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd, neu ehangu eich cyfleoedd i ddod o hyd i swydd mewn meysydd megis addysg, y llywodraeth neu'r sector preifat.

Bydd cymhwyster MPhil yn cymryd dwy flynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu bedair blynedd yn rhan amser.

Byddwch yn cyflwyno thesis o hyd at 60,000 o eiriau, gan ddangos gwaith ymchwil gwreiddiol â chyfraniad sylweddol at y pwnc. Fe'i dilynir gan arholiad llafar yn seiliedig ar y thesis (arholiad viva voce, neu viva).

Caiff ein hamgylchedd ymchwil deinamig ei lywio gan aelodau o staff ymroddedig sydd oll yn ymchwilwyr gweithredol ag amrywiaeth eang o ddiddordebau ac arbenigeddau drwy ein Grwpiau Ymchwil:

  • Yr Arsyllfa Polisi Cyffuriau Byd-eang (GDPO)
  • Astudiaethau Rhyngwladol, Gwrthdaro a Diogelwch (ISCAS)
  • Dadansoddi a Llywodraethu Gwleidyddol (PAG)

Mae'r arbenigedd hwn yn cynnwys:

  • Datblygiad Rhyngwladol
  • Gwrthdaro
  • Diogelwch rhyngwladol ac astudiaethau strategol
  • Polisi Tramor yr UD
  • Deallusrwydd

Byddwch yn meithrin ac yn mireinio'r sgiliau ymchwil sydd eu hangen ar gyfer gwaith lefel uchel ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'r rhaglenni sgiliau a hyfforddiant sydd ar gael ar y campws yn cynnig cymorth pellach. Cewch gyfle i wneud cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff yn ystod seminarau adrannol, ac yng nghynhadledd Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau i Ôl-raddedigion.

Mae'n bosibl y cewch gyfle hefyd i addysgu tiwtorialau a seminarau i israddedigion o'r ail flwyddyn, a chewch hyfforddiant a thâl am wneud hynny. Darperir cymorth ariannol hefyd (yn amodol ar gymeradwyaeth) er mwyn mynychu cynadleddau neu gynnal gweithgareddau ymchwil nad ydynt yn Abertawe.