Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, Ph.D. / Ph.D. Dysgu o Bell / Ph.D. Distance Learning" / M.Phil.

Dilyn prosiect ymchwil sylweddol a arweinir gan eich diddordebau

Myfyrwyr y tu allan i'r Senedd yn Llundain

Trosolwg o'r Cwrs

Mae PhD neu MPhil mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol wedi'i arwain gan eich hoffterau a'ch diddordebau personol.

Mae'n gymhwyster uchel ei barch a all eich rhoi ar y trywydd cywir ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd, neu ehangu eich cyfleoedd i ddod o hyd i swydd mewn meysydd megis addysg, y llywodraeth neu'r sector preifat.

Mae'r PhD yn cymryd tair blynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu chwe blynedd yn rhan amser, ac mae'r MPhil yn cymryd dwy flynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu bedair blynedd yn rhan amser.

Byddwch yn cyflwyno thesis o hyd at 100,000 o eiriau ar gyfer asesiad PhD a 60,000 o eiriau ar gyfer asesiad MPhil, gan ddangos gwaith ymchwil gwreiddiol â chyfraniad sylweddol at y maes pwnc. Fe'i dilynir gan arholiad llafar yn seiliedig ar y thesis (arholiad viva voce, neu viva).

Caiff ein hamgylchedd ymchwil deinamig ei lywio gan aelodau o staff ymroddedig sydd oll yn ymchwilwyr gweithredol ag amrywiaeth eang o ddiddordebau ac arbenigeddau.

Mae gennym amrywiaeth eang o arbenigedd ymchwil perthnasol y gellir ei rannu i'r categorïau canlynol: astudiaeth empiraidd o wleidyddiaeth, cysylltiadau rhyngwladol ac astudiaethau datblygu, a hanes syniadaeth wleidyddol, athroniaeth wleidyddol a damcaniaeth wleidyddol.

Caiff ein hamgylchedd ymchwil deinamig ei lywio gan aelodau o staff ymroddedig sydd oll yn ymchwilwyr gweithredol ag amrywiaeth eang o ddiddordebau ac arbenigeddau drwy ein Grwpiau Ymchwil: 

  • Yr Arsyllfa Polisi Cyffuriau Byd-eang (GDPO)
  • Astudiaethau Rhyngwladol, Gwrthdaro a Diogelwch (ISCAS)
  • Dadansoddi a Llywodraethu Gwleidyddol (PAG)

Mae pynciau arbenigedd gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol penodol yn cynnwys y canlynol, ond nid ydynt wedi'u cyfyngu i'r canlynol:

  • Diogelwch rhyngwladol ac astudiaethau strategol
  • Gwleidyddiaeth gofod ryngwladol
  • Cyfiawnder trosiannol a throseddau rhyngwladol
  • Ailadeiladu ar ôl rhyfel
  • Llywodraethu a datblygiad rhyngwladol, gan gynnwys polisi ac arfer o ran rhoi cymorth
  • Hawliau dynol a datblygiad rhyngwladol
  • Polisi Tramor yr UD
  • Syniadaeth wleidyddol Ewropeaidd
  • Damcaniaeth ddemocrataidd
  • Datganoli
  • Etholiadau cymharol
  • Diwygio'r sector cyhoeddus
  • Gwleidyddiaeth ryddfrydol gymharol
  • Integreiddiad Ewropeaidd a gwleidyddiaeth a pholisïau'r Undeb Ewropeaidd

Mae'r rhaglen hon yn meithrin y sgiliau ymchwil sydd eu hangen ar gyfer gwaith lefel uchel mewn unrhyw faes sy'n gysylltiedig â gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol a gallwch fanteisio ar amrywiaeth o raglenni sgiliau a hyfforddiant sydd ar gael ar y campws.

Fel myfyriwr ymchwil, bydd yn ofynnol i chi fynychu cyrsiau sgiliau a hyfforddiant. Cei di gyfle i roi cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff yn ystod seminarau adrannol, ac yn ein cynhadledd ôl-raddedig.

Mae'n bosibl y cewch gyfle hefyd i addysgu tiwtorialau a seminarau i israddedigion o'r ail flwyddyn, a chewch hyfforddiant a thâl am wneud hynny. Darperir cymorth ariannol hefyd (yn amodol ar gymeradwyaeth) er mwyn mynychu cynadleddau neu gynnal gweithgareddau ymchwil nad ydynt yn Abertawe.