Gerontoleg ac Astudiaethau Heneiddio, Ph.D / M.Phil.

Astudiwch yn y ganolfan ymchwil gerontoleg fwyaf yng Nghymru

CIA banner

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1 af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Nid yw deall a mynd i'r afael â'r problemau cymhleth o ran heneiddio erioed wedi bod yn bwysicach. Dros y 25 mlynedd diwethaf yn y DU, mae nifer y bobl 65 oed a throsodd wedi cynyddu dros 1.5 miliwn ac yn fyd-eang mae'r boblogaeth 60 oed a throsodd yn tyfu'n gyflymach na'r holl grwpiau oedran iau.

Mae gennym arbenigedd ymchwil helaeth sy'n ymwneud â dylanwad yr amgylchedd naturiol ac adeiledig ar boblogaeth sy'n heneiddio, a darpariaeth gofal ar gyfer y person hŷn ar draws meysydd megis gofal cymdeithasol, gofal iechyd, gofal preswyl, gofal lliniarol, cyflyrau cronig a chwympiadau a'u hatal.

Mae’r myfyrwyr ar hyn o bryd yn archwilio pynciau megis effaith ffordd o fyw ar swyddogaeth wybyddol yn hwyrach mewn bywyd, amgylcheddau gofal dementia, cymunedau cyfeillgar i oedran i bobl ag anawsterau symudedd a'r broses rhoi'r gorau i yrru ymysg gyrwyr hŷn.

Fel rhan o'n ysgol iechyd a gofal cymdeithasol, byddwch yn elwa o amgylchedd ymchwil deinamig a chefnogol gyda llawer o gyfleoedd i wneud cysylltiadau ar draws disgyblaethau a datblygu cysylltiadau â sefydliadau a llunwyr polisi yn y DU a thramor.