Gwaith Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol, Ph.D. / M.Phil.

Ymchwil sy'n effeithio ar y gweithlu gofal cymdeithasol

social work image

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1 af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Mae ein hymchwil yn cynhyrchu gwybodaeth newydd hanfodol am ddatblygiadau sy'n cael effaith ar y gweithlu gofal cymdeithasol ac ar ddarparu gwasanaethau, gan fynd i'r afael â chanlyniadau cymdeithasol fel ansawdd bywyd, cynhwysiant cymdeithasol a mesurau cyfalaf cymdeithasol.

Bydd astudio ar gyfer PhD mewn Gwaith Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol yn rhoi cyfle i chi ddilyn eich diddordeb ymchwil penodol sy'n ymwneud â'ch uchelgeisiau academaidd neu broffesiynol.

Ar hyn o bryd mae ein myfyrwyr yn ymchwilio i bynciau fel y gwasanaethau i ofalwyr ifanc, gweithio amlasiantaethol ym maes camddefnyddio sylweddau a'r allgáu cymdeithasol a brofir gan bobl hŷn mewn cartrefi gofal.

Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn datblygu ac yn gwella sgiliau trosglwyddadwy fel datrys problemau, rheoli prosiectau, a meddwl yn feirniadol sy'n cael eu gwerthfawrogi mewn unrhyw leoliad proffesiynol.

Fel myfyriwr yn ein Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, byddwch yn elwa o amgylchedd ymchwil deinamig a chefnogol gyda llawer o gyfleoedd i wneud cysylltiadau ar draws disgyblaethau a datblygu cysylltiadau â sefydliadau a llunwyr polisi yn y DU a thramor. O'r herwydd, gallwch fod yn hyderus y bydd eich ymchwil yn llywio ac yn cael ei lywio gan yr amgylchedd gofal cymdeithasol ehangach.