Gwyddor Iechyd, Ph.D. / M.Phil.

Cyfrannu'n weithredol at welliannau mewn gwasanaethau i gleifion ac ymarferwyr

HS

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1 af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Wrth gynllunio a chynnal yr ymchwil bioswyddonol sy'n darparu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer polisi ac arferion iechyd, mae ein hymchwilwyr yn cyfrannu'n weithredol at welliannau mewn gwasanaethau i gleifion ac ymarferwyr fel ei gilydd.

Bydd PhD mewn Gwyddorau Iechyd yn rhoi'r cyfle i chi archwilio eich diddordebau ymchwil personol neu broffesiynol yn y maes amrywiol yma.

Ar hyn o bryd mae myfyrwyr yn archwilio nodweddion gwrth-ffwngaidd o secretiadau cynrhonyn a nodweddion gwrthficrobaidd infertebratau, ac effeithiau ffisiolegol rhaglen adferiad cardiaidd ar gleifion cnawdnychiad myocardiaidd yn Kuwait.

Fel ein myfyriwr yn Yr ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, byddwch yn elwa o amgylchedd ymchwil deinamig a chefnogol gyda llawer o gyfleoedd i wneud cysylltiadau ar draws disgyblaethau a datblygu cysylltiadau â sefydliadau a gwneuthurwyr polisi yn y DU a thramor. Fel y cyfryw, gallwch fod yn hyderus y bydd eich ymchwil yn llywio ac yn cael ei hysbysu gan yr amgylchedd gofal iechyd ehangach.

Mae partneriaid ymchwil diweddar a chydweithrediad yn cynnwys:

  • Llywodraeth Cymru
  • GIG Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Yr Undeb Ewropeaidd
  • Amgen Europ
  • Y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • GlaxoSmithKline Biologicals
  • British Medical Association
  • National Institute for Social Care and Health Research
  • Astrazeneca
  • The Wellcome Trust