Iechyd a Lles, MSc drwy Ymchwil

Gwneud gwahaniaeth go iawn i ddatblygiad o gyflwyno gofal iechyd a pholisi

MSCRHW

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1 af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Mae systemau iechyd a gofal cymdeithasol y DU yn parhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel. Er hynny, mae'n hanfodol ein bod yn archwilio technolegau newydd a dull o weithio i sicrhau bod y safonau gofal yr ydym wedi dod i'w disgwyl yn cael eu cynnal.

Mae'r gwaith a wnawn i gefnogi'r ethos hwn yn cael ei danategu gan ddiwylliant o gysylltedd y myfyrwyr rydyn ni'n eu haddysgu, i'r ymchwil rydyn ni'n ei wneud a thrwy ein heffaith ar y byd ehangach. Yn annatod trwy hyn oll mae cyfranogiad cleifion a darparwyr gofal yn ein gwaith, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol i'r heriau sy'n wynebu ein cymdeithas.

Rhodd astudio ar gyfer MSc trwy Ymchwil mewn Iechyd a Llesiant y cyfle i chi ddilyn eich diddordebau ymchwil personol neu broffesiynol eich hun yn fanwl yn y maes eang hwn, sy'n cwmpasu meysydd polisi mor amrywiol ag iechyd, addysg, tai, anabledd, trosedd, tlodi, a'r teulu. Cyniga’r radd MSc hon y cyfle rhagorol i wneud cyfraniad gwreiddiol at ddatblygu a chymhwyso ymchwil canlyniadau i faterion bywyd go iawn wrth ddarparu polisi a gofal iechyd.

Gan gynnig hyblygrwydd trwy ddull astudio sy’n gwbl seiliedig ar ymchwil, mae ein cwrs MSc trwy Ymchwil mewn Iechyd a Llesiant yn berffaith i'r rheiny sy'n edrych i gydbwyso ymrwymiadau gwaith, bywyd ac astudio.

Cewch ddatblygu sgiliau mewn dulliau ymchwil craidd a dadansoddi i ddylunio a darparu eich prosiect ymchwil eich hun, gyda chefnogaeth rhaglen oruchwylio a hyfforddi wedi'i theilwra. Gall hyn gynnwys datblygu gwybodaeth a sgiliau mewn agweddau ar ddefnyddio epidemioleg, ymchwil feintiol ac ansoddol a dadansoddi data arferol.

Fel myfyriwr yn yr ysgol iechyd a gofal cymdeithasol, byddwch yn elwa o amgylchedd ymchwil deinamig a chefnogol gyda nifer o gyfleoedd i wneud cysylltiadau ar draws disgyblaethau a datblygu cysylltiadau â sefydliadau a llunwyr polisi yn y DU a thramor. Felly, medrwch fod yn hyderus y bydd eich ymchwil yn llywio ac yn cael ei lywio gan yr amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol ehangach.