Modelling, Data and AI, MSc drwy Ymchwil

Cyfle Unigryw i Ymhél ag Ymchwil Amlddisgyblaethol

Image of see-through computer screen with brain on.

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiad dechrau: MSc trwy Ymchwil – 1 Hydref, 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf.

Gan gydnabod bod heriau byd-eang cymhleth y byd sydd ohoni, megis newid hinsawdd, gofal iechyd a threfoli, yn gofyn am atebion integredig, mae’r MSc trwy Ymchwil mewn Modelu, Data a Deallusrwydd Artiffisial yn dwyn ynghyd ymchwil mewn meysydd amrywiol, yn cynnwys mathemateg, peirianneg, cyfrifiadureg a deallusrwydd artiffisial.

Mae’r radd hon yn rhaglen MSc sy’n seiliedig yn llwyr ar ymchwil. Mae hefyd yn cynnwys hyfforddiant mewn modelu, data a thechnolegau deallusrwydd artiffisial, a bydd yn eich galluogi i ddod yn aelod o gymuned ymchwil weithgar, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau fel seminarau, cynadleddau academaidd, gweithdai entrepreneuraidd a fforymau diwydiannol. 

Cynhelir y rhaglen hon gan Sefydliad Zienkiewicz ar gyfer Modelu, Data a Deallusrwydd Artiffisial, ac mae’n defnyddio arbenigedd mwy na 160 o academyddion ledled y Brifysgol. Mae’n cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr ymhél ag ymchwil amlddisgyblaethol ar draws disgyblaethau sy’n gysylltiedig â’r Sefydliad, mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, a Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Trwy feithrin amgylchedd lle gall myfyrwyr ymgysylltu ag arbenigwyr o amryfal ddisgyblaethau, anelwn at annog ffyrdd creadigol o ddatrys problemau a defnyddio ymchwil sydd ar flaen y gad.

Yn ogystal â chyfoethogi’r profiad dysgu, bydd y dull rhyngddisgyblaethol hwn yn eich paratoi ar gyfer dod o hyd i’ch ffordd trwy fyd sy’n fwyfwy cydgysylltiedig (yn ogystal â chyfrannu at y byd hwnnw), gan ddarparu’r set sgiliau sy’n angenrheidiol i ymdrin yn effeithiol â materion y byd go iawn.

Rydym wedi'n rancio:

  • Un o’r 201-250 o Raglenni Gorau yn y Byd (QS World University Rankings 2025)