Ein Cymuned Ymchwil Iechyd a Gwyddor Bywyd Arloesol
Mae ein cyfleusterau ymchwil yn rhan ganolog o lwyddiant yr Ysgol Feddygaeth. Rydym ar flaen y gad ym maes ymchwil feddygol ac yn y gwyddorau bywyd, gan helpu staff a myfyrwyr i feithrin perthnasoedd gwaith â staff a myfyrwyr mewn gwledydd tramor. Rydym yn arbennig o ymroddedig i annog syniadau newydd a meithrin talent.
Fel un o ganolfannau mwyaf blaenllaw’r DU ym maes ymchwil feddygol, rydym yn ymrwymedig i gyflawni ymchwil arloesol ym maes iechyd a’r gwyddorau bywyd sy'n perfformio'n dda o ran denu cyllid ymchwil o ffynonellau nodedig a myfyrwyr PhD ac Ymchwil o safon uchel. O lwyddiant REF2014, mae'r Ysgol Feddygaeth wedi cynnal ei safle ymysg y 5 uchaf yn y DU ar gyfer ansawdd ymchwil cyffredinol, gan barhau i gael ei hystyried yn un sy'n arwain y byd (REF2021).