Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r cwrs MRes mewn Gwyddorau Dadansoddol Cymhwysol (LCMS) yn gyfuniad unigryw o gyfranogiad yn y diwydiant a chynnwys cwrs a fydd yn eich galluogi i ennill cymhwyster galwedigaethol-berthnasol ac yn helpu i'ch gwneud yn gyflogadwy iawn yn y DU a thramor.
Mae'r galw byd-eang am sbectrometreg màs a chromatograffaeth wedi cynyddu ar raddfa na welwyd ei thebyg o'r blaen, ac mae graddedigion cymwysedig yn brin ac yn unigolion y mae galw mawr iawn amdanynt. Mae eich cwrs wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion diwydiant a bydd yn trafod pynciau fel hanfodion sbectrometreg màs a gwyddor gwahanu, mesuriadau dadansoddol dilys, ystadegau, dadansoddi data a datblygu dull.
Prifysgol Abertawe yw'r unig sefydliad yn y DU sy'n cynnig cynllun pwrpasol ar gyfer y pynciau hyn, gan fanteisio ar arbenigedd yn y Sefydliad Sbectrometreg Màs (IMS), sydd wedi'i leoli yn yr Ysgol Feddygaeth.
Bydd eich rhaglen blwyddyn llawn amser, neu ddwy flynedd rhan amser, yn cynnwys:
- Hyfforddiant helaeth mewn Sefydliad a arweinir gan ymchwil er mwyn gwella sgiliau gwyddor ddadansoddol i'r lefelau proffesiynol sydd eu hangen yn y gweithle
- Cwrs hynod ymarferol a chyfarpar mewnol helaeth. Byddwch yn dysgu mewn ffordd fanylach a mwy ymarferol na'r rhan fwyaf o raglenni MRes dadansoddol sydd ar gael ar hyn o bryd. Darperir hyfforddiant rheoli prosiect ychwanegol ar gynllunio arbrawf, iechyd a diogelwch a sgiliau labordy er mwyn eich paratoi ar gyfer ymchwil a sicrhau eich bod yn barod ar gyfer gwaith prosiect.
- Darlithwyr gwadd arbenigol o ddiwydiant. Cyfleoedd unigryw i rwydweithio â darpar gyflogwyr a gwell rhagolygon cyflogadwyedd mewn meysydd hynod fedrus a pherthnasol fel cynhyrchion fferyllol, amaethyddiaeth, bwyd a maeth, diogelwch gwladol, diagnosteg glinigol, gwyddor filfeddygol a fforensig, dadansoddi amgylcheddol, yn ogystal â marchnata a gwerthu, i enwi ond ychydig
- Asesiadau sy'n hybu sgiliau trosglwyddadwy sy'n hanfodol ar gyfer cyflogaeth. Yn cynnwys astudiaethau achos, taflenni problemau, ymarferion prosesu data a gwybodeg, yn ogystal â'r arholiadau ac aseiniadau seiliedig ar draethodau traddodiadol
- Dysgu seiliedig ar ymarfer
- Tîm goruchwylio â goruchwylwyr enwebedig
- Byddwch yn cael budd o sgiliau'r gymuned academaidd ehangach
- Seminarau a gweithdai'r rhaglen
- Cydweithio â phartneriaid mewn diwydiant a byd busnes
Mae gennym gysylltiadau cryf ag amrywiaeth o bartneriaid a chydweithwyr allanol, gan gynnwys y GIG; Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; Bwrdd Iechyd Hywel Dda; cyngor ymchwil y DU; Llywodraeth Cymru a sawl cysylltiad cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd y cysylltiadau hyn, ynghyd â'r sgiliau a'r rhinweddau y byddwch yn eu meithrin yn ystod eich gradd ymchwil yn cyfoethogi eich CV ac yn eich helpu i sefyll allan mewn marchnad gyflogaeth gystadleuol iawn i raddedigion.