Trosolwg o'r Cwrs
Pwyntiau Mynediad: Medi, Ionawr, Ebrill, Gorffennaf
Mae ein rhaglen PhD Gwyddor Data'r Boblogaeth ac Iechyd ar gael ar sail amser llawn neu ran-amser, dros 3 neu 6 blynedd.
Mae’r pwysau cynyddol ar systemau iechyd byd eang yn dra hysbys, gyda chlefydau cronig, poblogaethau sy’n heneiddio a chynnydd o ran achosion iechyd meddwl. Mae datblygiadau ym maes meddygaeth yn gwella iechyd mwy a mwy o bobl, ond mae anghydraddoldebau gofal iechyd yn gyffredin gan ddibynnu ar le mae pobl yn cael eu geni, yn byw ac yn gweithio. Nod iechyd poblogaeth yw mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn drwy fynd ati i ddeall anghenion gofal iechyd grwpiau o bobl yn well, gwella modelau gofal iechyd a darparu datrysiadau arloesol i gyflawni gofynion iechyd pobl. Yn ogystal, mae gofal iechyd eisoes â pherthynas gref sefydledig â thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh), ac mae’n parhau i ehangu rheng flaen gwybodaeth yn barhaus wrth i ddulliau newydd o gael data am iechyd pobl gael eu datblygu.
Bydd eich rhaglen yn cynnwys:
- Dysgu seiliedig ar ymarfer
- Tîm goruchwylio â goruchwylwyr enwebedig
- Byddwch yn cael budd o sgiliau'r gymuned academaidd ehangach
- Seminarau a gweithdai'r rhaglen
- Mynediad i'r prif gyfleuster ymchwil feddygol bwrpasol yng Nghymru
- Cydweithio â phartneriaid mewn diwydiant a byd busnes
Yn ystod eich cwrs, byddwch yn cael budd o'n cyfleusterau arbenigol uchel eu parch. Ein weledigaeth yw datblygu gwyddor feddygol drwy ymchwil ac arloesedd rhyngddisgyblaethol. Rydym yn ganolfan flaenllaw ar gyfer ymchwil feddygol ac yn enghraifft unigryw o gydweithio llwyddiannus rhwng y GIG, y byd academaidd a diwydiant yn y sector gwyddorau bywyd ac iechyd.
Mae gennym gysylltiadau cryf ag amrywiaeth o bartneriaid a chydweithwyr allanol, gan gynnwys y GIG; Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; Bwrdd Iechyd Hywel Dda; cyngor ymchwil y DU; Llywodraeth Cymru a sawl cysylltiad cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd y cysylltiadau hyn, ynghyd â'r sgiliau a'r rhinweddau y byddwch yn eu meithrin yn ystod eich gradd ymchwil yn cyfoethogi eich CV ac yn eich helpu i sefyll allan mewn marchnad gyflogaeth gystadleuol iawn i raddedigion.