I wneud cais am y rhaglen PhD byddai angen i chi fod â, neu fod yn astudio ar gyfer gradd Meistr, tra bod ein rhaglen MPhil yn gofyn am radd gyntaf neu ail radd uwch mewn disgyblaeth sy'n gysylltiedig â'r prosiect ymchwil arfaethedig, neu gymhwyster ôl-raddedig perthnasol, cymeradwy. Mewn rhai achosion, efallai y bydd cyfleoedd i fyfyrwyr MPhil barhau â'u hastudiaethau fel myfyriwr PhD.
PhD: Fel rheol rhaid i ymgeiswyr am PhD feddu ar radd israddedig ar lefel 2.1 a gradd meistr. Fel arall, bydd ymgeiswyr sydd â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn y DU (neu gyfwerth nad yw'n rhan o'r DU fel y'i diffinnir gan Brifysgol Abertawe) nad oes ganddynt radd meistr, yn cael eu hystyried yn unigol.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr o bob cwr o'r byd ac yn edrych am dystiolaeth o astudiaeth flaenorol sy'n cyfateb i'r gofynion mynediad a nodwyd uchod. Mae'r Swyddfa Derbyn Ôl-raddedig yn hapus i'ch cynghori ynghylch a yw'ch cymwysterau'n addas ar gyfer mynediad i'r cwrs yr hoffech eu hastudio. E-bostiwch admissions@swansea.ac.uk i gael mwy o wybodaeth.
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf bydd angen pas derbyniol mewn cymhwyster Iaith Saesneg cymeradwy i sicrhau eich bod yn cael y budd llawn o astudio yn Abertawe. Rydym yn ystyried ystod eang o gymwysterau, gan gynnwys Prawf Saesneg Prifysgol Abertawe, prawf IELTS y Cyngor Prydeinig (gyda sgôr o 6.5 o leiaf ym mhob cydran). Mae rhestr lawn o brofion Saesneg derbyniol i'w gweld yma.
Byddai disgwyl i chi fodloni'r gofynion mynediad lleiaf a nodir uchod. Mae'r Coleg / Ysgol yn cadw'r hawl i ofyn am raddau a chymwysterau academaidd uwch. Mae penderfyniadau derbyn yn ystyried nid yn unig gymwysterau academaidd blaenorol, ond hefyd ffactorau gan gynnwys safon y crynodeb / cynnig ymchwil a gyflwynwyd, eich perfformiad yn y cyfweliad (os oes angen), dwyster y gystadleuaeth am lefydd cyfyngedig a phrofiad proffesiynol perthnasol (lle bo hynny'n briodol).
Yn ogystal â chymwysterau academaidd, gall penderfyniadau derbyn fod yn seiliedig ar ffactorau eraill, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): safon y crynodeb / cynnig ymchwil, perfformiad mewn cyfweliad, dwyster y gystadleuaeth am leoedd cyfyngedig, a phrofiad proffesiynol perthnasol.
Yn ogystal â chymwysterau academaidd, gellir seilio penderfyniadau ynghylch
derbyn myfyrwyr ar ffactorau eraill, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
safon y crynodeb/cynnig ymchwil, perfformiad yn ystod y cyfweliad, lefel y
gystadleuaeth am leoedd cyfyngedig a phrofiad proffesiynol perthnasol.
Gofyniad am eirda
Yn arferol, gofynnir am ddau eirda cyn y gallwn anfon ceisiadau i Diwtor
Derbyn rhaglenni ymchwil y Coleg/Ysgol i'w hystyried.
Caiff ceisiadau a dderbynnir heb ddau eirda wedi'u hatodi atynt eu gohirio
nes y derbynnir y geirda sy'n weddill. Sylwer y gall oedi hir wrth dderbyn y
geirda sy'n weddill arwain at ohirio'ch cais tan ddyddiad cychwyn/mis derbyn
posib diweddarach, o'i gymharu â'r dyddiad y rhestroch yn gychwynnol fel y
dyddiad dechrau o'ch dewis.
Efallai yr hoffech ystyried cysylltu â'ch canolwr (canolwyr) i'n cynorthwyo
wrth dderbyn y geirda sy'n weddill neu, fel arall, gallwch ohirio cyflwyno'ch
cais nes eich bod wedi dod o hyd i'ch geirda. Sylwer nad cyfrifoldeb Swyddfa
Derbyn y Brifysgol yw dod o hyd i'r geirda sy'n weddill ar ôl i ni anfon e-bost
cychwynnol at y canolwyr (canolwyr) a enwebwyd gennych, gan ofyn am eirda ar
eich rhan chi.
Gall y geirda hwn fod ar ffurf llythyr ar bapur pennawd swyddogol neu gellir
ei gyflwyno ar ffurflen geirda safonol y Brifysgol. Cliciwch ar y ddolen hon i
lawrlwytho ffurflen geirda'r Brifysgol.
Fel arall, gall canolwyr anfon geirda mewn e-bost o'u cyfrif e-bost gwaith.
Sylwer na ellir derbyn geirda a anfonir oddi wrth gyfrifon e-bost preifat,
(h.y. Hotmail, Yahoo, Gmail).
Gellir cyflwyno geirda i pgradmissions@abertawe.ac.uk.