Peirianneg Feddygol, MSc drwy Ymchwil

Rydym yn ganolfan wych ar gyfer eich gwaith ymchwil ym maes Peirianneg Feddygol

Engineering Equipment

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1 af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

 

Mae'r cwrs MSc drwy Ymchwil mewn Peirianneg Feddygol yn rhoi cyfle i raddedigion ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth ac arbenigedd yn y maes ymchwil o'u dewis, y tu hwnt i lefel gradd meistr a addysgir, ond heb yr angen i gwblhau cymaint o waith ymchwil newydd â myfyriwr doethurol.

Yn y Coleg Peirianneg, mae gwaith ymchwil o'r radd flaenaf yn cael ei wneud mewn nifer o feysydd, gan gynnwys synwyryddion diagnostig a modelu systemau ffisiolegol gan ddefnyddio dulliau cyfrifiadurol.

Ymchwil biofeddygol yn Abertawe

Drwy flynyddoedd o brofiad, mae peirianwyr mewn sefyllfa wych i ymdrin â meddygaeth o safbwynt cwbl wahanol, a all helpu i godi gofal meddygol i'r lefel nesaf. Mae ein grŵp ymchwil ym maes peirianneg biomeddygol yn arbenigo mewn datblygu a chymhwyso adnoddau cyfrifiadurol i wneud y canlynol:

  • Gwella ein dealltwriaeth o ffisioleg ddynol
  • Datblygu technegau diagnostig soffistigedig
  • Gwella dyluniad dyfeisiau meddygol

Mae'r graddau ymchwil ym maes peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe yn defnyddio'r gwaith ymchwil meddygol cyffrous sy'n digwydd yn y Coleg Peirianneg ac Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

Mae llwyddiant ymchwil y ddau goleg wedi arwain at greu'r Ganolfan NanoIechyd, sef cyfleuster unigryw gwerth £22 miliwn sy'n cysylltu peirianneg a meddygaeth.