Peirianneg Meinweoedd a Meddygaeth Atgynhyrchiol, MSc drwy Ymchwil

Ymchwilio i agweddau niferus ar beirianneg feinweoedd

Engineering Equipment

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1 af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

 

Bob dydd rydym yn clywed am ddatblygiadau arloesol ym maes peirianneg feinwe sy'n cynnig potensial gwych o ran meddygaeth atgynhyrchiol a gofal iechyd yn y dyfodol. Mae staff ym Mhrifysgol Abertawe yn gweithio ar sawl agwedd ar beirianneg feinweoedd.

Nod y cwrs MSc drwy Ymchwil hwn yw rhoi sylfaen gadarn i chi ym maes peirianneg feinweoedd a sut y caiff ei defnyddio ym maes meddygaeth atgynhyrchiol.

Gwneir hyn drwy flwyddyn o waith ymchwil mewn maes perthnasol a gaiff ei ddewis ar ôl trafod â staff academaidd Abertawe. Gan weithio gyda dau oruchwylydd academaidd, byddwch yn cynnal arolwg cynhwysfawr o lenyddiaeth a fydd yn eich galluogi i lunio rhaglen ymchwil arbrofol. 

Fel myfyriwr ar y cwrs MSc drwy Ymchwil, byddwch yn cael hyfforddiant labordy perthnasol i gyflawni'r rhaglen ymchwil. Caiff y gwaith ymchwil ei ysgrifennu fel traethawd ymchwil a gaiff ei arholi. Cewch eich annog hefyd i gyflwyno eich gwaith ar ffurf gohebiaeth wyddonol fel cyfnodolion a chyflwyniadau poster mewn cynadleddau.

Bydd y cwrs MSc drwy Ymchwil yn rhoi cyfoeth o brofiad a gwybodaeth ymchwil i chi a fydd o fudd i chi yn eich gyrfa yn y byd academaidd neu'r diwydiannau gofal iechyd yn y dyfodol.

Fel myfyriwr MSc drwy Ymchwil, byddwch yn ymuno ag un o'r timau ym Mhrifysgol Abertawe sy'n gweithio ym maes peirianneg meinwe ac yn defnyddio cyfarpar ymchwil o'r radd flaenaf yn y Ganolfan NanoIechyd, sef menter ar y cyd rhwng y Coleg Peirianneg a'r Coleg Meddygaeth.