Peirianneg Biofeddygol, Ph.D.

Ymysg y 15 cwrs gorau yn y DU yn gyffredinol – Technoleg Feddygol a Pheirianneg

The Complete University Guide 2023

Female biomedical engineering student

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau dechrau: Hydref, Ionawr, Ebrill, Gorffennaf.

Ymchwil i beirianneg fiofeddygol ym Mhrifysgol Abertawe

Mae gennym raglen eang o ymchwil, sy’n cynnwys cymhwyso egwyddorion peirianyddol i’r corff dynol ac i’r peiriannau a’r offeryniaeth a ddefnyddir ym myd gofal iechyd modern. Mae gennym hefyd ddiddordeb hirsefydlog mewn dadansoddiad cyfrifiadol a mathemategol o systemau biofeddygol.

Mae ein gwaith o fewn tair thema ymchwil :

  • Bioddadansoddeg – modelu data a dadansoddi ystadegol
  • Bioddeunyddiau – datblygu therapiwteg newydd
  • Biomecaneg – astudiaeth arbrofol a chyfrifiadol o systemau biomecanyddol

Mae teitlau prosiectau PhD diweddar yn cynnwys:

I’w cadarnhau

Mae'r graddau ymchwil peirianneg fiofeddygol ym Mhrifysgol Abertawe'n tynnu ar yr arbenigedd sylweddol sydd gan ein hadran a'n cydweithwyr ledled y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Mae gennym hefyd rwydwaith helaeth o raglenni ymchwil gydweithredol gydag ysgolion a sefydliadau meddygaeth megis Canolfan Ymchwil yr Ysbyty Methodistaidd yn Houston, a chyda phartneriaid yn y diwydiant megis GSK, Bruker Nano, Olympus Surgical Technologies a Renishaw.