Arloesedd Ynni, Ph.D.

Mae Arloesedd Ynni'n her allweddol ar gyfer yr 21ain Ganrif

Solar panels

Trosolwg o'r Cwrs

**MAE CEISIADAU AM FYNEDIAD IONAWR AC EBRILL 2023 AR GYFER Y RHAGLEN HON BELLACH WEDI CAU**

Dyddiadau Cychwyn: PhD/MPhil - 1 Hydref, 1 Ionawr, 1 Ebrill ac 1 Gorffennaf.

Mae darparu ynni cynaliadwy, fforddiadwy a diogel yn y dyfodol drwy ddarganfod a rhoi technoleg newydd ar waith yn her allweddol yn yr unfed ganrif ar hugain.

Wrth i anghenion pobl am danwydd gynyddu, mae angen darparu ffyrdd effeithiol o gael ynni o amrywiaeth eang o ffynonellau. Mae angen dybryd am ddatblygiadau ynni arloesol amrywiol, a byddant yn allweddol i atebion ynni byd-eang.

Mae'r Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) yn ganolfan rhagoriaeth flaenllaw o ran datblygu technolegau uwch ym maes adnoddau ynni, a gallant dderbyn llawer o’r myfyrwyr hyn.

Mae'r Ganolfan yn elwa ar arbenigedd sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ym maes ystod eang o dechnolegau ynni a thechnoleg tanwydd:

  • Hydrocarbon
  • Hydrogen
  • CO2
  • Biodanwydd
  • Trosglwyddo ynni
  • Technolegau tonnau a’r môr
  • Modelu cyfrifiadurol

Rhagor o wybodaeth am ESRI.

Rydym wedi'n rancio:

  • Ymysg y 201-250 gorau yn y byd ar gyfer Peirianneg Gemegol (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025)