Dihalwyno ac Ail-ddefnyddio Dwr, MSc drwy Ymchwil

Mae Prifysgol Abertawe’n arwain y byd ym maes dihalwyno ar gyfer trin dŵr.

Civil Engineering Equipment

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1 af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Mae pwysau’n cynyddu ar ein hadnoddau dŵr cyfyngedig. Wrth i fwy a mwy o bobl fod angen dŵr glân, rhaid i atebion effeithiol ddod o ailddefnyddio dŵr yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae’r Ganolfan ar gyfer Technolegau Dŵr Uwch ac Ymchwil Amgylcheddol (CWATER) yn ganolfan ragoriaeth sy’n arwain yn rhyngwladol ym maes datblygu technolegau uwch i drin dŵr.

Mae’r Ganolfan ar ei hennill oddi wrth arbenigedd sy’n arwain y byd ym maes dihalwyno ar gyfer trin dŵr.

Caiff y rhaglen hon ei chynnal yng Nghampws y Bae, Prifysgol Abertawe o fis Medi 2015.

Mae meysydd ymchwil y Ganolfan ar gyfer Technolegau Dŵr Uwch ac Ymchwil Amgylcheddol (CWATER), yn fras, yn mynd i un o dri chategori:

  • Trin dŵr yfed: dulliau gwell o drin dŵr y gellir ei yfed, gyda llygad ar gyrraedd rheoliadau sy’n tynhau am gostau cyfalaf a chostau rhedeg is.  
  • Trin dŵr gwastraff: technolegau ar gyfer tynnu ymaith effeithiol ddeunyddiau sy’n andwyol i’r amgylchedd ac o ganlyniad leihau allyriadau fesul allbwn pob arllwysiad.
  • Trin dŵr prosesu: dulliau ar gyfer trin nentydd prosesu er mwyn galluogi ailgylchu dŵr a rhyngolynnau cemegol gwerthfawr. 

Mae gan yr MSc drwy Ymchwil i Ddihalwyno ac Ailddefnyddio Dŵr ystod eang o ddewis-bynciau gan gynnwys:

  • Prosesau modelu pilenni
  • Cymeriadu pilen a phroses
  • Sylweddau peryglus
  • Osoneiddio a Phrosesau Ocsideiddio Uwch (AOPs)
  • Astudiaethau maint peilot

Rydym wedi'n rancio:

  • Ymysg y 201-250 gorau yn y byd ar gyfer Peirianneg Gemegol (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025)