Technoleg Pilenni, MSc drwy Ymchwil

Mae Prifysgol Abertawe yn arwain y byd mewn technolegau bilen ar gyfer trin dŵr

pic

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1 af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Mae pwysau'n cynyddu ar ein hadnoddau dŵr cyfyngedig. Gyda mwy o bobl angen dŵr glân, mae angen i atebion effeithiol ddod o ailddefnyddio dŵr yn y ffordd fwyaf effeithlon.

Mae gan yr MSc drwy Ymchwil mewn Technoleg Pilen ystod eang o ddewis-bynciau gan gynnwys:

  • Prosesau modelu pilenni
  • Cymeriadu pilen a phroses
  • Sylweddau peryglus
  • Biobrosesu
  • Datblygu meinweoedd newydd
  • Osoneiddio a Phrosesau Ocsideiddio Uwch (AOPs)
  • Astudiaethau maint peilot

Mae meysydd ymchwil y Ganolfan ar gyfer Technolegau Dŵr Uwch ac Ymchwil Amgylcheddol (CWATER), yn fras, yn mynd i un o dri chategori:

  • Trin dŵr yfed: dulliau gwell o drin dŵr y gellir ei yfed, gyda llygad ar gyrraedd rheoliadau sy'n tynhau am gostau cyfalaf a chostau rhedeg is;
  • Trin dŵr gwastraff: technolegau ar gyfer tynnu ymaith effeithiol ddeunyddiau sy'n andwyol i'r amgylchedd ac o ganlyniad leihau allyriadau fesul allbwn pob arllwysiad.
  • Trin dŵr prosesu: dulliau ar gyfer trin nentydd prosesu er mwyn galluogi ailgylchu dŵr a rhyngolynnau cemegol gwerthfawr.

Rydym wedi'n rancio:

  • Ymysg y 201-250 gorau yn y byd ar gyfer Peirianneg Gemegol (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025)