Technoleg Tanwydd, MSc drwy Ymchwil

Darparu Dyfodol Ynni Cynaliadwy, Fforddiadwy a Diogel

Civil Engineering Equipment

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1 af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Wrth i anghenion pobl am danwydd gynyddu, mae angen darparu ffyrdd effeithiol o gael ynni o amrywiaeth eang o ffynonellau. Yn y tymor agos, bydd amrywiaeth o danwyddau'n allweddol i ynni yn fyd-eang: olew a nwy, ar hyn o bryd, gyda dibyniaeth gynyddol ar hydrogen a biodanwyddau.

Mae'r MSc drwy Ymchwil mewn Technoleg Tanwydd yn cynnig dewis eang o bynciau, gan gynnwys:

  • Dylunio catalyddion
  • Nodweddu prosesau
  • Puro
  • Optimeiddio prosesau
  • Astudiaethau graddfa beilot

Mae'r Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) yn ganolfan rhagoriaeth flaenllaw o ran datblygu technolegau uwch ym maes adnoddau ynni.

Gellir rhannu meysydd ymchwil ESRI yn fras yn bedwar categori:

  • Hydrocarbon: cynhyrchu a phrosesu olew a nwy; materion i lawr y gadwyn mewn perthynas â phuro tanwydd yn effeithlon; cemeg cyfansoddiad/perfformiad ychwanegion a thanwydd.
  • Hydrogen: technolegau ar gyfer cynhyrchu hydrogen yn effeithlon o wastraff cynhyrchu ynni; ffotogatalyddu ar gyfer cynhyrchu hydrogen; hydrogen fel fector ynni.
  • CO2: technolegau ar gyfer tynnu carbon deuocsid o borthiant tanwydd yn effeithlon; defnyddio carbon deuocsid fel ffynhonnell tanwydd.
  • Biodanwydd: dulliau ar gyfer datblygu'r llifoedd proses i alluogi integreiddio cynhyrchiad biodanwyddau â chadwyn gyflenwi'r diwydiant cemeg.