Peirianneg Biobrosesu, MSc drwy Ymchwil

Darparu datrysiadau peirianneg prosesau arloesol

Civil Engineering Equipment

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1 af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

O ysgrifennu gwerslyfrau awdurdodol ar beirianneg gemegol i ddod o hyd i ddatrysiadau i'r prinder dŵr byd-eang, mae gan Brifysgol Abertawe draddodiad balch o ddarparu datrysiadau peirianneg prosesau arloesol.

Mae ein gwaith ymchwil yn seiliedig ar feysydd peirianneg prosesau sefydledig, a gellir eu cymhwyso at feysydd ynni, iechyd, bwyd, dŵr a'r amgylchedd. 

Mae amrywiaeth eang o waith ymchwil yn digwydd ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys:

  • Biobeirianneg, peirianneg biofeddygol
  • Dihalwyno
  • Peirianneg fferyllol
  • Peirianneg polymerau
  • Prosesau gwahanu
  • Prosesau cludo
  • Peirianneg dŵr a dŵr gwastraff

Un o'n prif gryfderau yw ein cysylltiadau agos a sylweddol â chwmnïau peirianneg lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Rydym wedi'n rancio:

  • Ymysg y 201-250 gorau yn y byd ar gyfer Peirianneg Gemegol (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025)