Peirianneg Gemegol, MSc drwy Ymchwil

Darparu datrysiadau peirianneg prosesau arloesol

Civil Engineering Equipment

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1 af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

O ysgrifennu gwerslyfrau awdurdodol ar beirianneg gemegol i ddod o hyd i ddatrysiadau i'r prinder dŵr byd-eang, mae gan Brifysgol Abertawe draddodiad balch o ddarparu datrysiadau peirianneg prosesau arloesol. Gan fod gennym ystod eang o waith ymchwil ym maes peirianneg gemegol, mae Prifysgol Abertawe yn ganolfan wych i wneud eich ymchwil fel myfyriwr MSc drwy Ymchwil mewn Peirianneg Gemegol.

Mae amrywiaeth eang o waith ymchwil ym maes peirianneg gemegol yn digwydd ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys:

  • Gwahanu pilenni
  • Peirianneg biocemegol
  • Bioweithgynhyrchu
  • Cymhwyso nanodechnoleg mewn peirianneg
  • Biobeirianneg, peirianneg biomeddygol
  • Peirianneg celloedd a meinweoedd
  • Gwyddor a pheirianneg coloidau
  • Dihalwyno
  • Peirianneg fferyllol
  • Peirianneg polymerau
  • Rheoleg
  • Prosesau gwahanu
  • Prosesau cludo
  • Peirianneg dŵr a dŵr gwastraff

Mae'r rhaglen MSc drwy Ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi cyfle i chi weithio gydag aelod o'r staff academaidd mewn un o'r meysydd ymchwil uchod, neu faes cysylltiedig.

Rydym wedi'n rancio:

  • Ymysg y 201-250 gorau yn y byd ar gyfer Peirianneg Gemegol (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025)