Y Gyfraith, Ph.D. / Ph.D. Dysgu o Bell / M.Phil.

Ymunwch â’n cymuned ffyniannus o fyfyrwyr ymchwil

a group of research students discussing their work

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1 af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Mae gradd ymchwil yn y Gyfraith yn rhoi cyfle i chi ddilyn prosiect ymchwil sy’n seiliedig ar eich angerdd a’ch diddordebau personol, gan arwain at gymhwyster a all agor y drws i yrfa academaidd neu hybu rhagolygon cyflogaeth mewn amrywiaeth o feysydd eraill.

Yn gyffredinol, bydd eich gradd ymchwil yn para rhwng tair blynedd (llawn amser) a chwe blynedd (rhan-amser) ar gyfer gradd PhD, neu rhwng dwy flynedd (llawn amser) a chwe blynedd (rhan-amser) ar gyfer gradd MPhil.

Mae gennym ystod eang o arbenigedd, ac rydym yn gwahodd ceisiadau yn y meysydd canlynol:

  • Y Gyfraith gyffredin, contract a masnachol - yn enwedig Cyfraith Gymharol Rhwymedigaethau, Gwarantau, Cyfraith Cwmnïoedd, y Gyfraith Eiddo Deallusol a'r defnydd o asedau ED wrth sicrhau cyllid ar gyfer cwmnïoedd bach a chanolig, Cyfraith E-gontractio, Cyfraith Cwmnïoedd, Cyfraith Ecwiti, y Gyfraith a Thechnoleg; a Chyfraith Masnach Ryngwladol
  • Cyfraith Forwrol - yn benodol Cyfraith Trafnidiaeth, Amddiffyn yr Amgylchedd, Adeiladu Llongau, Gwrthdrawiadau, Cyfraith y Môr, Yswiriant Morol, Achub a Gorfodi Hawliau Morol
  • Cyfraith Olew a Nwy – yn enwedig Cytundebau Buddsoddi, Trefniadau Atebolrwydd a Chyflafareddu Buddsoddiad
  • Y Gyfraith Gyhoeddus ar draws meysydd domestig, rhanbarthol a rhyngwladol, gan gynnwys: Y Gyfraith Weinyddol; Y Gyfraith Feddygol, Hawliau plant; Y Gyfraith Gyfansoddiadol; Datganoli; Y Gyfraith Economaidd; Cyfraith yr Amgylchedd (gan gynnwys Cynllunio Defnydd Tir a Chadwraeth Natur); Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd; Rhywedd a'r Gyfraith; Cyfraith Hawliau Dynol; Cyfraith Buddsoddi; Hawliau Ieithoedd Lleiafrifol; Llywodraethu Aml-lefel; Y Gyfraith Economaidd-gymdeithasol; a'r Gyfraith Caffael Cyhoeddus
  • Y Gyfraith Droseddol a'r Gyfraith mewn perthynas â therfysgaeth, Seibr-Derfysgaeth a Gwrth-Derfysgaeth