Rheoli Busnes, MSc drwy Ymchwil

Gwnewch waith ymchwil a fydd yn newid tirwedd eich dewis faes busnes

myfyriwr

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1 af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Mae'r cwrs MSc drwy Ymchwil mewn Rheoli Busnes yn gwrs gradd ymchwil blwyddyn o hyd (llawn amser) sy'n cynnig hyblygrwydd llwyr drwy ei fodd astudio sy'n gwbl seiliedig ar ymchwil.

Byddwch yn rhydd i ddewis eich maes ymchwil eich hun sy'n gysylltiedig â rheoli busnes, gyda chymorth academyddion o radd flaenaf yr Ysgol.

Mae'r cwrs hwn, sy'n cyfuno ymchwil annibynnol â goruchwyliaeth academaidd arbenigol, yn meithrin dealltwriaeth uwch o dueddiadau a materion cyfoes ym maes Rheoli a meysydd cysylltiedig. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn ymddygiad defnyddwyr, strategaethau busnes byd-eang neu reoli adnoddau dynol; cewch gyfle i wneud darn o waith ymchwil a allai gael effaith sylweddol ar faes busnes penodol.

Mae'r cwrs ei hun wedi'i gynllunio er mwyn eich paratoi ar gyfer gyrfa ym maes academia neu fusnes, neu astudiaethau ôl-raddedig neu broffesiynol pellach.