Rheoli Busnes, Ph.D. / Ph.D. Dysgu o Bell / M.Phil.

Gwnewch waith ymchwil sy'n dylanwadu ar y dirwedd fusnes

myfyriwr

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: PhD/MPhil - 1af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Mae byd busnes yn gymhleth. Ar lefel leol ac ar lefel fyd-eang, mae'n datblygu'n gyson yn unol â newidiadau mewn marchnadoedd byd-eang. Mae'r gallu i fod yn hyblyg fel busnes yn bwysicach nag erioed; mae angen rhagweld risg a rheoli problemau – mae'r dirwedd fusnes wedi newid. Fel myfyriwr Rheoli Busnes PhD/MPhil, cewch gyfle i ddylanwadu ar y dirwedd hon.

Byddwch yn rhydd i ymchwilio i lu o ddisgyblaethau busnes, o ymddygiad defnyddwyr, busnes a strategaeth a chysylltiadau mewnol i entrepreneuriaeth, rheoli adnoddau dynol a rheoli gweithrediadau a chadwyni cyflenwi. Cewch gyfle i gael effaith ar ddiwydiant ac archwilio'r elfennau amrywiol sy'n ffurfio busnes.

Er mwyn eich helpu i ddatblygu a thyfu eich ymchwil, bydd academyddion o'r radd flaenaf yn yr Ysgol Reolaeth ar gael i roi adborth i chi; gan sicrhau eich bod yn gwneud y gwaith ymchwil gorau posibl.

Ar ôl cwblhau'r cwrs Rheoli Busnes PhD/MPhil, bydd gennych fantais sylweddol dros bobl eraill wrth i chi ddechrau ar eich gyrfa mewn diwydiant neu academia.

Canolfannau Ymchwil Cysylltiedig yn yr Ysgol Reolaeth: