Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd: Ysgoloriaeth Ymchwil PhD wedi’i Hariannu’n Llawn mewn Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd
Dyddiad cau: Dydd Gwener 28 Tachwedd 2025
Gwybodaeth Allweddol
Ar agor i: Ymgeiswyr y DU yn unig
Cyfweliadau: Wythnos 8-12 Rhagfyr 2025
Mae'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd yn falch o gyhoeddi TAIR ysgoloriaeth PhD wedi'u hariannu'n llawn mewn meysydd sy'n ymwneud â dulliau mathemategol ac ystadegol i hyrwyddo ymchwil feddygol. Gofynnwn i ymgeiswyr ddewis UN prosiect o'r rhestr o BEDWAR isod wrth gyflwyno cais. Bydd myfyrwyr yn cael eu rhoi ar y rhestr fer i gael cyfweliad ar draws y pedwar prosiect a bydd gofyn iddynt roi cyflwyniad byr i egluro pam maent wedi dewis y prosiect hwnnw a pham mae eu profiad academaidd yn eu gwneud yn ymgeisydd addas. Yna, ar ôl y cyfweliad, bydd y myfyriwr gorau ym mhob un o'r PEDWAR prosiect yn cael ei restru a bydd y TRI ymgeisydd llwyddiannus gorau yn cael eu dewis. Bydd uchafswm o UN myfyriwr fesul prosiect.
Teitlau prosiectau:
Dulliau Bayesaidd ar gyfer clystyru delweddau a gymhwysir i ymchwil iechyd poblogaethau
Dulliau ystadegol newydd ar gyfer dadansoddi data symud cydraniad uchel mewn modelau anifeiliaid o iechyd dynol
Cyflwyniad cynnar o glefyd cardiofasgwlaidd atherosglerotig mewn cleifion ag iselder a dylanwad ffactorau risg cardiofasgwlaidd
Modelu hydredol i integreiddio ymatebion biolegol a ffisiolegol â gweithgarwch corfforol mewn beichiogrwydd iach ac andwyol
Darparwyr Ariannu: Sefydliad Meddygol Dewi Sant
Dyddiad Dechrau: 1 Ionawr 2026
Goruchwylwyr: Prosiect 1: Dr James Rafferty Prosiect 2: Dr Emma Prosiect 3: Dr Libby Ellins Prosiect 4: Yr Athro Cathy Thornton
Rhaglen astudio gydnaws: PhD mewn Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd
Dull astudio: Amser llawn
Prosiect 1: Mae setiau data mawr, arferol yn aml yn cynnwys strwythur grŵp cyfoethog. Gelwir modelau sy'n ystyried y strwythur hwn yn fodelau hierarchaidd, aml-lefel neu effeithiau cymysg, ond maent yn gofyn am wybodaeth am grwpiau yn y data. Gellir datgelu strwythur grŵp na sylwir arno gan ddefnyddio dulliau clystyru fel modelu cymysgedd. Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ceisio datblygu model newydd ac arloesol lle defnyddir delweddau i ddod o hyd i glystyrau mewn data a'u dadansoddi yn amodol ar ganlyniad. Rydym yn disgwyl i'r ysgoloriaeth ymchwil ddechrau gydag adolygiad o lenyddiaeth fethodolegol berthnasol. Bydd cyfnod o ddatblygu a phrofi modelau gan ddefnyddio astudiaeth efelychu ac wedyn cymhwysiad peilot o'r model i ddata delweddu gofal iechyd. Bydd y cynllun peilot hwn yn cael ei gynnal gan ddefnyddio data a weinyddir gan y Fenter Niwroddelweddu Clefyd Alzheimer (ADNI), sy'n cynnwys data personol a delweddu ar gleifion dementia yn yr Unol Daleithiau. Byddai'r prosiect yn addas i rywun sydd â chefndir mewn ystadegaeth neu fathemateg.
Prosiect 2: Mae namau festibwlar yn sail i anhwylderau cydbwysedd ac amcangyfrifir eu bod yn costio >£2.3 biliwn bob blwyddyn yn y DU. Defnyddir modelau anifeiliaid i ddeall systemau clywedol a festibwlar ar sail genetig, gyda fideo cyfradd ffrâm uchel yn cael ei ddefnyddio i gysylltu genoteipiau â symudiadau unigryw. Yr her yw datblygu modelu ystadegol modern ar gyfer cwestiynau ymchwil cymhleth gan ddefnyddio data olrhain symudedd cydraniad uchel. Ein cwestiwn ymchwil yw a allwn ganfod anhwylderau cydbwysedd mewn pysgod sebra a llygod. Byddwch yn datblygu modelu mathemategol ac ystadegol arloesol o faes ecoleg symudedd gyda'r nod o ddatblygu methodolegau y gellir eu cyffredinoli ar draws lleoliadau modelau clinigol a modelau anifeiliaid. Bydd hyn yn rhoi sgiliau cyflogadwyedd rhagorol yn y byd academaidd a thu hwnt.
Bydd gennych naill ai gefndir mathemategol gyda diddordeb mewn cymwysiadau iechyd dynol yn y byd go iawn neu gefndir biolegol/biofeddygol gyda'r ddawn i ddadansoddi data. Mae'r cyfleoedd a gewch chi drwy'r prosiect hwn yn cynnwys hyfforddiant uwch mewn modelu ar draws ystod o ieithoedd (R, Python, C++) a phrofiad dewisol o gaffael data o bysgod sebra â namau festibwlar. Mae'r prosiect hwn yn gyfle prin i wneud cynnydd sylfaenol mewn dadansoddi symudedd anifeiliaid.
Prosiect 3: Allwch chi ein helpu i ddefnyddio data mawr i ddeall yn well pam mae pobl â chyflyrau iechyd meddwl yn datblygu clefyd cardiofasgwlaidd yn gynharach na'r rhai hebddynt?
Mae cleifion ag iselder mewn mwy o berygl o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd atherosglerotig (ASCVD), prif achos afiachusrwydd a marwolaethau. Rydym wedi dangos bod cleifion ag iselder yn datblygu ASCVD yn gynharach (11.5 oed) na chleifion nad oes ganddynt iselder. Mae gan iselder ddiffiniad eang ac is-deipiau â phroffiliau clinigol a phatholegegol gwahaniaethol a all gyfrannu at ddatblygiad a chyflwyniad cynharach o ASCVD. Bydd y prosiect hwn yn archwilio cyflwyniad cynnar ASCVD mewn cleifion ag iselder ac yn ceisio nodi'r cleifion hynny sy’n wynebu’r risg fwyaf.
Bydd y prosiect yn defnyddio data lefel poblogaeth, cofnodion iechyd electronig a data hydredol i nodi'r cleifion hynny sydd ag iselder sydd â'r risg fwyaf o ddatblygu ASCVD ac adnabod ffactorau risg sy'n cyfrannu, gan ddefnyddio modelau goroesi gyda pharamedrau sy'n amrywio o ran amser. Bydd prosesau Markov yn cael eu defnyddio i ystyried natur ddeugyfeiriadol y berthynas er mwyn pennu effaith y cyflwr ar iechyd meddwl.
Bydd y dull hwn yn ein helpu i gael gwell persbectif o sut mae ffactorau'n rhyngweithio i gyfeirio ymdrechion i gau'r bwlch yn natblygiad ASCVD rhwng y rhai sydd ag iselder a'r rhai heb iselder.
Prosiect 4: Mae beichiogrwydd yn cynnwys addasiadau ffisiolegol dwys, ond gall addasiad diffygiol arwain at ganlyniadau niweidiol fel cyneclampsia neu enedigaeth baban cyn amser. Mae deall sut mae cysylltiadau amgylcheddol a gweithgarwch corfforol yn dylanwadu ar yr ymatebion hyn yn hollbwysig ar gyfer gwella iechyd mamau. Bydd y prosiect PhD hwn yn datblygu modelau mathemategol ac ystadegol arloesol i nodweddu newidiadau ffisiolegol deinamig ar draws beichiogrwydd iach a chymhleth. Gan ddefnyddio setiau data a gasglwyd yn ddiweddar sy'n integreiddio mesurau cardiofasgwlaidd a gweithgarwch â data omeg, ansawdd aer, a ffactorau amgylcheddol, bydd y myfyriwr yn adeiladu fframwaith cyfrifiadurol amlbwrpas ar gyfer echdynnu nodweddion, integreiddio data, a lleihau dimensiynoldeb. Bydd dulliau casgliad taflwybr uwch a dysgu peirianyddol yn cael eu cymhwyso i nodi efeilliaid digidol sy'n cipio mecanweithiau ffisiolegol allweddol.
Cymhwyster
PhD: Rhaid i ymgeiswyr am PhD feddu ar radd israddedig 2:1 (neu gymhwyster cyfatebol o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig fel y'i diffinnir gan Brifysgol Abertawe).
Iaith Saesneg
IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe. Ceir manylion llawn yma am ein polisi Iaith Saesneg, gan gynnwys cyfnod dilysrwydd tystysgrifau.
Nodyn ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol ac Ewropeaidd: gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut mae eich cymhwyster yn cymharu â’r gofynion mynediad academaidd sydd wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen Gofynion Mynediad Gwledydd Penodol.
Cyllid
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn talu'r holl ffïoedd dysgu gan gynnwys cyflog blynyddol ar raddfa UKRI (sef £20,780 ar gyfer 2025/26 ar hyn o bryd).
Sut i Wneud Cais
I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan:
I gael eich ystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth hon, rhaid cymryd y camau canlynol hefyd.
1) Yn yr adran 'Gwybodaeth am y Rhaglen', nodwch Gôd yr Ysgoloriaeth Ymchwil berthnasol ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth h.y. RS907
2) Yn yr adran 'Ymchwil' byddwch chi'n gweld 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig'* (Gorfodol)
- Yn yr adran 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig' nodwch:
- y Côd RS, RS907 a
- theitl yr ysgoloriaeth.
- Gadewch faes y Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag
- Gadewch faes y Prosiect Ymchwil (os yw’n berthnasol) yn wag
- Yn y maes 'Oes gennych chi gynnig i'w lanlwytho?*' (Gorfodol), dewiswch Oes
- Yna, lanlwythwa gopi o'th gynnig fel y gallwn dy baru ag un o'r 4 prosiect a nodir yn yr hysbysiad hwn
3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am Gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Sicrhewch nad oes unrhyw opsiynau eraill yn cael eu dewis.
*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais, sylwer na chaiff ceisiadau a dderbynnir heb yr wybodaeth a restrir uchod eu hystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth.
Os ydych chi wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon o'r blaen, bydd y system yn dangos rhybudd "Cyflwynwyd Cais" ac yn gwahardd cyflwyniad newydd. Yn yr achos hwn:
- Cyflwynwch gais am yr un cwrs â'r dyddiad dechrau nesaf sydd ar gael (e.e., dewiswch fis Ionawr os nad yw mis Hydref ar gael).
- E-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gan nodi eich rhif myfyriwr a chôd RS yr ysgoloriaeth berthnasol, a gofyn i'r dyddiad dechrau gael ei newid i gyd-fynd â'r hysbyseb.
- Bydd y staff Derbyn Myfyrwyr yn diweddaru eich cais yn unol â hyn.
Mae angen cyflwyno un cais unigol am bob ysgoloriaeth ymchwil unigol a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru mwy nag un ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe.
SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen.
Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.
Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost):
- Cynnig Ymchwil
- CV
- Tystysgrifau a Thrawsgrifiadau o'ch gradd (os ydych yn astudio am radd ar hyn o bryd, bydd sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol)
- Llythyr eglurhaol, gan gynnwys Datganiad Personol Atodol i esbonio pam mae'r rôl yn gweddu'n arbennig i'ch sgiliau a'ch profiad, a sut byddwch yn dewis datblygu'r prosiect.
- Un geirda (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur â phennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirdaon Prifysgol Abertawe. Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n cynnwys cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi'u cyfeiriad e-bost gwaith at ddiben cadarnhau'r geirda.
- Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
- Copi o fisa preswylydd y DU (os yw’n berthnasol)
- Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â:
Dr James Rafferty J.M.Rafferty@Swansea.ac.uk
Dr Emma Kenyon Emma.Kenyon@Swansea.ac.uk
Dr Libby Ellins E.A.Ellins@Swansea.ac.uk
Prof Cathy Thornton C.A.Thornton@Swansea.ac.uk
*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dewis ceisiadau am ysgoloriaeth, efallai caiff data cais ei rannu â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd.
** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.