Dyddiad cau: 10 Awst 2025

Gwybodaeth Allweddol

Ar agor i: Ymgeiswyr y DU yn unig

Mae rheolau Dull B yn berthnasol oherwydd bydd y myfyrwyr yn ddysgwyr proffesiynol cyflogedig, yn ymgymryd â’r PhD amser llawn yn eu lleoliad gwaith 

Cyllidwr: Llywodraeth Cymru drwy'r Academi Dysgu Dwys ar gyfer Arloesi  

Maes Pwnc: Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol  

Dyddiadau dechrau'r prosiect: Hydref 2025 

Goruchwyliwr/wyr: Dr Daniel Rees,  

Rhaglenni Astudio Cydnaws: PhD mewn Rheoli Busnes   

Dull Astudio: Amser llawn, Dull B 

Lleoliad Astudio: y gweithle a'r Ysgol Reolaeth 

Disgrifiad o'r prosiect:  

Mae'r ysgoloriaeth PhD unigryw hon sydd wedi'i hariannu'n llawn yn cynnig cyfle gwych i ymgeisydd archwilio a nodi'r strategaethau a fframweithiau arloesedd mwyaf effeithiol i drawsnewid systemau iechyd a gofal ar draws y Gymanwlad. 

Wedi'i gynnal gan Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac mewn partneriaeth â'r sefydliad newydd ei sefydlu, sef Sefydliad Arweinwyr y Gymanwlad (Iechyd) a Chymrodoriaeth Arweinwyr Iechyd Ifanc y Gymanwlad, bydd y prosiect yn ymgysylltu â rhwydwaith byd-eang o arweinwyr iechyd sy'n creu effaith ac yn canolbwyntio ar y dyfodol. 

Bydd yr ymgeisydd PhD llwyddiannus yn: 

  • Ymchwilio a gwerthuso galluoedd, modelau, a fframweithiau arloesedd a ddefnyddir mewn gwledydd amrywiol y Gymanwlad i wella canlyniadau iechyd a gofal.  
  • Cydweithio ag ysgolheigion ac ymarferwyr mwyaf blaenllaw ym myd arloesi iechyd ar draws Cymru a'r Gymanwlad. 
  • Cyfrannu at ddatblygu strategaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth y gelli eu cyflwyno ar raddfa ehangach ar gyfer meithrin arloesedd mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol byd-eang.  

Ym mis Mehefin 2024, lansion ni Sefydliad Arweinwyr y Gymanwlad (Iechyd) a Chymrodoriaeth Arweinwyr Iechyd Ifanc y Gymanwlad yn Windsor, DU, yn llwyddiannus - dwy fenter bwysig a ddyluniwyd i rymuso arweinwyr iechyd a mwyhau eu heffaith byd-eang. Bydd y PhD hon yn cyfrannu'n rhagweithiol at y platfformau hyn, ac yn elwa ohonynt. 

Buddion Ychwanegol: 

  • Mynediad at hyfforddiant arweinyddiaeth a chyfleoedd cydweithio rhyngwladol. 
  • Cyllideb teithio a hyfforddiant i gefnogi gwaith maes ac ymgysylltiad â phartneriaid byd-eang pan fo'n briodol. 
  • Cymryd rhan weithredol mewn amgylchedd ymchwil rhyngddisgyblaethol bywiog sy'n ymrwymedig i arloesedd iechyd ac effaith gymdeithasol. 

Rydym yn chwilio am ymgeisydd llawn cymhelliant sy'n angerddol am drawsnewid systemau iechyd, cydweithio byd-eang ac arloesedd arweinyddiaeth. Mae'r prosiect PhD hwn yn gyfle arwyddocaol i ddatblygu polisi ac ymarfer arloesi iechyd y dyfodol ar draws y Gymanwlad. 

Caiff ceisiadau eu dewis ar sail y cyfraniad hwn, ac yn erbyn y meini prawf a restrir isod. 

Cymhwyster

PhD: Mae'n rhaid i ymgeiswyr am PhD feddu ar radd israddedig ar lefel 2.1 a gradd meistr ag o leiaf ddyfarniad cyffredinol o 'Teilyngdod'. Fel arall, caiff ymgeiswyr sy'n meddu ar radd anrhydedd dosbarth cyntaf o'r DU (neu gymhwyster cyfwerth o'r tu allan i'r DU, fel y’i diffinnir gan Brifysgol Abertawe) ond nad ydynt yn meddu ar radd meistr, eu hystyried ar sail unigol. Gweler ein Gofynion Mynediad Ôl-raddedig ar gyfer Gwledydd Penodol. 

Iaith Saesneg 

IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob cydran unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe Gellir dod o hyd i fanylion llawn am ein polisi Iaith Saesneg, gan gynnwys y cyfnod y mae tystysgrifau'n ddilys, yma. 

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu cost lawn y ffïoedd dysgu. 

Bydd treuliau ychwanegol hefyd ar gael, pan fo'n briodol, i gynnal gwaith maes a theithio i hyfforddiant a digwyddiadau ymgysylltu yn unol â'r prosiect. 

Mae rheolau Dull B yn berthnasol oherwydd bydd y myfyrwyr yn ddysgwyr proffesiynol cyflogedig, yn ymgymryd â’r PhD amser llawn yn eu lleoliad gwaith 

Sut i Wneud Cais

gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen gais cyfan, drwy ddilyn y ddolen hon: Cwblhewch eich cais yma yn y Porth Dysgwr 

I gael eich ystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth hon, rhaid cymryd y camau canlynol hefyd. 

1) Yn yr adran 'Gwybodaeth am y Rhaglen', nodwch God yr Ysgoloriaeth Ymchwil berthnasol ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth h.y. RS870 

2) Yn yr adran 'Ymchwil' byddwch chi'n gweld 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig'* (Gorfodol) 

  • Yn yr adran 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig' nodwch:  
    • côd yr ysgoloriaeth ymchwil RS870, ac 
    • deitl yr ysgoloriaeth   
  • Gadewch faes y Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag 
  • Gadewch faes y Prosiect Ymchwil (os yw’n berthnasol) yn wag 
  • Yn y maes 'Oes gennych chi gynnig i'w lanlwytho?*' (Gorfodol), dewiswch Oes 
  • Yna lanlwythwch gopi o'r hysbyseb (gallwch gadw’r hysbyseb drwy glicio argraffu, ac yna ei argraffu i pdf) 

3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am Gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Sicrhewch nad oes unrhyw opsiynau eraill yn cael eu dewis.  

*Yr ymgeisydd sy'n gyfrifol am restru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau a gyflwynir heb yr wybodaeth uchod eu hystyried ar gyfer yr ysgoloriaeth. 

Mae angen cyflwyno un cais unigol am bob ysgoloriaeth ymchwil unigol a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru sawl dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe. 

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant  yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen.    

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno. 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost): 

  • CV 
  • Ffuflen Dull B 
  • Tystysgrifau a Thrawsgrifiadau gradd (os ydych yn astudio am radd ar hyn o bryd, bydd sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol) 
  • Llythyr eglurhaol, gan gynnwys Datganiad Personol Atodol i esbonio pam mae'r rôl yn gweddu'n arbennig i'ch sgiliau a'ch profiad, a sut byddwch yn dewis datblygu'r prosiect. 
  • Un geirda (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur â phennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirdaon Prifysgol Abertawe Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n cynnwys cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi cyfeiriad e-bost eu swydd er mwyn dilysu'r geirda. 
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol). 
  • Copi o VISA preswylydd y DU (lle bo'n briodol) 
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant 

Cofiwch gynnwys yr wybodaeth ganlynol ar y gwaelod: 

Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â Dr Dan Rees, d.j.rees@abertawe.ac.uk 

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses ddewis ceisiadau am ysgoloriaeth, efallai caiff data cais ei rannu â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd.