Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2025

Gwybodaeth Allweddol

Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol

Darparwyr y cyllid: YGGCC YR ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50% 

Y meysydd pwnc: Llwybr Cymdeithaseg/Astudiaethau Gwyddoniaeth a Thechnoleg Ysgoloriaeth Ymchwil YGGCC yr ESRC  

Dyddiadau dechrau'r prosiect: 1 Hydref 2026 (bydd cofrestru ar agor o ganol mis Medi) **(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl). 

Goruchwylwyr: Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ddyfarniad 'agored'. Dylai ymgeiswyr ystyried cysylltu â darpar oruchwyliwr cyn iddynt gyflwyno eu cais i gadarnhau bod goruchwyliwr ar gael yn y Brifysgol ac i drafod eu cais drafft. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar gael ar wefan Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru YGGCC yr ESRC. Efallai y bydd cynrychiolydd y llwybr yn Abertawe, Dr Chiara Poletti, chiara.poletti@abertawe.ac.uk yn gallu rhoi cyngor i chi. 

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Cymdeithaseg/Astudiaethau Gwyddoniaeth a Thechnoleg 

Disgrifiad o'r Prosiect: 
Bydd y llwybr hwn yn defnyddio darpariaeth ac ymchwil arbennig mewn hyfforddiant dulliau cymdeithasegol yn Abertawe, er mwyn datblygu gallu a chreu strategaeth wedi'i rhwydweithio ar draws Cymru gyfan ar gyfer hyfforddiant doethurol ym maes Cymdeithaseg ac Astudiaethau Gwyddoniaeth a Thechnoleg, gan ddefnyddio ymagweddau wyneb yn wyneb, hybrid ac ymagweddau cyfunol. Mae cryfderau'r llwybr yn cynnwys canolfannau a buddsoddiadau eraill gan UKRI, YDG Cymru, Y Ganolfan Ymchwil00205} Heneiddio a Dementia. 

Mae Cymdeithaseg/Astudiaethau Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn gryfder disgyblaethol sy'n datblygu ym Mhrifysgol Abertawe ac sy'n rhan o uned asesu 20, gyda meysydd rhagoriaeth sy'n gysylltiedig â themâu trawsbynciol YGGCC. Mae hwn yn uno dau lwybr DTP2, sy'n debyg iawn o ran termau disgyblaethol, gydag estyniad i gynnwys Bangor ac Abertawe, yn ogystal â Chaerdydd. 

Amgylchedd Hyfforddiant 

Ymchwil: Mae'r llwybr hwn yn cynnig hyfforddiant uwch ar gyfer: Dulliau Ansoddol a Meintiol (yr holl sefydliadau addysgu uwch); Ethnograffeg; Dadansoddi rhyngweithiad (sain, fideo ac ymagweddau amlfodd); Ymagweddau uwch at Astudiaethau Gwyddoniaeth a Thechnoleg; Damcaniaethu Newid a Thrawsffurfiad Cymdeithasol Cyfoes; Ystadegaeth Uwch; a'r Ysgol Haf ar Ystadegau i Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig, o 2024 (Abertawe). Bydd myfyrwyr hefyd yn medru cymryd rhan mewn hyfforddiant a ddarperir gan WISERD, sy'n cyd-fynd yn agos â’r llwybr, a byddant yn elwa o'i bartneriaeth â Chanolfan Genedlaethol ar gyfer Dulliau Ymchwil (NCRSM) y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) (2019-2024), sef canolfan ar gyfer darparu hyfforddiant arloesol a gweithgareddau sy'n datblygu gallu. Yn ogystal â chyfuno'r adnoddau hyn pan fo'n bosibl, byddwn hefyd yn defnyddio cymorth hyfforddiant YGGCC i ddatblygu a chyflwyno cyfres o gyrsiau byr ar-lein ar gyfer hyfforddiant ar ddulliau, yn ogystal â chreu a chyflwyno ysgol haf sy'n benodol ar gyfer y llwybr/clwstwr (a gynhelir ar sail gylchdroadol fel digwyddiad 'signal'), ac sydd hefyd yn agored i lwybrau eraill a Phartneriaethau Hyfforddiant Doethurol, lle y bo'n ymarferol.  

Mae gwaith ymgysylltu â'r gymuned yn cynnwys cyflwyniadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl y Gelli ac ymchwil gydweithredol gydag, e.e. Y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, Arolygiaeth Gofal Cymru, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Cymru (partner ffurfiol YGGCC), Shelter Cymru, a Chanolfan Gymunedol ac Ieuenctid Senghenydd (de Cymru).  

Meithrin Carfan: 

Byddwn yn sefydlu grwpiau ymchwil sy'n canolbwyntio ar sefydliadau addysgu uwch i holl fyfyrwyr y llwybr a'r clwstwr. Bydd yr ymagwedd rwydweithio hon yn plethu'r gweithgareddau hyn yn gyfres o weithgareddau hybrid a fydd yn agored ar draws y llwybr, gan fwyafu cyfleoedd i feithrin carfannau a chyfranogiad. Mae cylchdroi'r ysgol haf yn gweithredu fel digwyddiad signal blynyddol y garfan. 

Cymhwyster

I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan YGGCC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU. Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol. 

Yr Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Am ragor o wybodaeth, gweler y Gofynion Iaith Saesneg - Prifysgol Abertawe 

Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaeth(au) y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt. 

Mae ysgoloriaethau ymchwil YGGCC ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu'r gwahaniaeth rhwng ffïoedd i fyfyrwyr o'r DU a'r gyfradd ryngwladol. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd yr UKRI.      

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu am ffïoedd dysgu ac ariantal byw di-dreth blynyddol yn unol â chyfraddau UKRI (sef £20,780 ar gyfer 2025/26). Bydd gan fyfyrwyr hefyd fynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil 

Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl yn ogystal â'ch ysgoloriaeth ymchwil. Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) 

Sut i Wneud Cais

I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, drwy ddilyn y ddolen hon: 

I gael eich ystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth hon, rhaid cymryd y camau canlynol hefyd. 

1) Yn yr adran 'Gwybodaeth am y Rhaglen', nodwch Gôd yr Ysgoloriaeth Ymchwil berthnasol ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth h.y. RS898 

2) Yn yr adran 'Ymchwil' byddwch chi'n gweld 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig'* (Gorfodol) 

  • Yn yr adran 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig' nodwch:  
  • gôd yr ysgoloriaeth ymchwil, RS898 a  
  • theitl yr ysgoloriaeth   
  • Gadewch faes y Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag 
  • Gadewch faes y Prosiect Ymchwil (os yw’n berthnasol) yn wag 
  • Yn y maes 'Oes gennych chi gynnig i'w lanlwytho?*' (Gorfodol), dewiswch Oes 
  • Yna lanlwythwch gopi o'r hysbyseb (gallwch gadw’r hysbyseb drwy glicio argraffu, ac yna ei argraffu i pdf) 

3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am Gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Sicrhewch nad oes unrhyw opsiynau eraill yn cael eu dewis.  

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais, sylwer na chaiff ceisiadau a dderbynnir heb yr wybodaeth a restrir uchod eu hystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth. 

Os ydych chi wedi gwneud cais am y rhaglen hon o'r blaen, bydd y system yn dangos rhybudd “Cais Wedi’i Gyflwyno” ac yn rhwystro cyflwyniad newydd. Yn yr achos hwn: 

  1. Gwnewch gais am yr un cwrs gyda'r dyddiad cychwyn nesaf sydd ar gael (e.e., dewiswch Ionawr os nad yw Hydref ar gael). 
  2. E-bostiwch pgrscholarships@swansea.ac.uk gyda'ch rhif myfyriwr a chôd yr ysgoloriaeth ymchwil berthnasol, gan ofyn i'r dyddiad cychwyn gael ei ddiwygio i gyd-fynd â'r hysbyseb. 
  3. Yna bydd staff derbyn Myfyrwyr yn diweddaru eich cais yn unol â hynny. 

Mae angen cyflwyno un cais unigol am bob ysgoloriaeth ymchwil unigol a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru mwy nag un ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe. 

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen.    

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno. 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost): 

  • WGSSS_Studentship_Application_Form_2026.pdf 
  • CV 
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau graddau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol) 
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol ar bapur â phennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirdaon Prifysgol Abertawe. Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n cynnwys cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi'u cyfeiriad e-bost gwaith at ddiben cadarnhau'r geirda. 
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol). 
  • Copi o fisa Preswylydd y DU (lle bo'n briodol) 
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant 

Asesu:    
Caiff ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau panel 

Hyd astudio:    
Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd yn llawn amser (neu gyfwerth rhan-amser).      

Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a fydd yn cael eu hasesu trwy gwblhau Dadansoddiad Anghenion Datblygu. Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer astudiaeth amser llawn a rhan-amser.    

Lleoliad Gwaith Ymchwil mewn Ymarfer:  
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan YGGCC gwblhau lleoliad gwaith Ymchwil mewn Ymarfer wedi'i ariannu, am gyfanswm o 3 mis (neu'r cyfnod rhan-amser cyfwerth). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad gwaith yn y byd academaidd, polisi, busnes neu sefydliadau'r gymdeithas sifil.     

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:  
Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.    

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dewis ceisiadau am ysgoloriaeth, efallai caiff data cais ei rannu â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd. 

** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.