Economi Ddigidol a'r Gymdeithas Ddigidol: Ysgoloriaeth Ymchwil PhD Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) ar y llwybr economi a chymdeithas ddigidol (RS704)
Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2024
Gwybodaeth Allweddol
Darparwr neu ddarparwyr y cyllid: YGGCC yr ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50%
Maes pwnc/pynciau: Ysgoloriaeth Ymchwil YGGCC yr ESRC ar y llwybr Economi a Chymdeithas Ddigidol
Dyddiad(au) dechrau'r prosiect: 1 Hydref 2025 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi)
Goruchwylwyr:
Dyfarniad ‘agored’ yw'r ysgoloriaeth ymchwil hon. Dylai ymgeiswyr gysylltu â darpar oruchwyliwr cyn cyflwyno cais, er mwyn cadarnhau bod gallu goruchwylio priodol ar gael yn y Brifysgol ac er mwyn trafod eu cais drafft. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar gael ar dudalennau gwe Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru’r ESRC.
Mae'n bosib y bydd cynrychiolydd y llwybr yn Abertawe, Dr Matthew Roach, yn gallu eich cynghori.
Arweinydd y Llwybr: Dr Matthew Roach
Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD yn yr Economi Ddigidol a'r Gymdeithas Ddigidol
Dull Astudio: Mae modd astudio’n amser llawn neu'n rhan-amser.
Sylwer na chaiff deiliaid dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil amser llawn yr ESRC fod mewn swydd amser llawn, swydd ran-amser barhaol neu rôl dros dro am gyfnod hir, yn ystod cyfnod eu dyfarniad. Ni chaiff deiliaid ysgoloriaeth ymchwil ran-amser yr ESRC weithio mewn swydd amser llawn.
Disgrifiad o'r prosiect:
Mae'r llwybr hwn yn gwahodd ceisiadau gan fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn ymgymryd â phrosiectau rhyngddisgyblaethol sy'n cynnwys elfennau o fethodolegau gwyddor gyfrifiadol yng nghyd-destun heriau gwyddor gymdeithasol gan rychwantu cylchoedd gorchwyl ESRC ac EPSRC Sefydliad Ymchwil y DU. Nod y llwybr hwn yw datblygu arbenigedd ym maes ymchwilio i ymddygiad dynol, gan gyfuno dulliau dadansoddol meintiol a digidol uwch, a'u cymhwyso i ddata a gynhyrchir drwy olion traed digidol, gydag ymchwil ansoddol i ryngweithio mewn mannau ar-lein. Dylai prosiectau gynnwys strategaethau sy'n amrywio o ddadansoddi postiadau yn y cyfryngau cymdeithasol i olrhain symudiadau yn oddefol drwy ddata o fesurydd cyflymu, a gwerthuso sut mae systemau cymdeithasol-dechnegol presennol a rhai sy'n datblygu yn ymateb i ryngweithiadau penodol rhwng pobl ac algorithmau ac yn dylanwadu arnynt. Ar ben hyn, mae prosiectau sy'n edrych ar sut mae'r awydd am ffyrdd newydd o fynegi anghenion economaidd a chymdeithasol yn gallu sbarduno datblygiadau mewn technoleg ddigidol a'u cymwysiadau yn addas hefyd. Mae meysydd craidd i brosiectau ganolbwyntio arnynt yn cynnwys: problemau iechyd a gofal cymdeithasol; cymunedau cyfyngedig; busnes ac arloesi seiberddiogelwch; a throseddu a diogelwch;
Bydd myfyrwyr yn elwa o gael eu goruchwylio ar y cyd gan dimau amlddisgyblaethol o fewn sefydliadau addysg uwch a rhyngddynt. Cefnogir y llwybr gan yr adrannau canlynol: Gwyddorau Cymdeithasol (Caerdydd); Cyfrifiadureg; Y Gyfraith (Abertawe, gyda chyllid gan Innovate UK ac NIHR) a chan y canolfannau hyn: Y Ffowndri Gyfrifiadol; Canolfan Hyfforddiant Doethurol EPIC yr EPSRC (Abertawe); Y Labordy Gwyddor Data Cymdeithasol a'r HateLab (ill dau'n fuddsoddiadau data'r ESRC); a'r Sefydliad Trawsnewid Digidol (Caerdydd). Mae'n parhau'r cydweithrediad llwyddiannus rhwng Caerdydd ac Abertawe yn DTP2. Argymhellir yn gryf eich bod yn ceisio cyngor ar eich cynnig i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â chylch gorchwyl y llwybr. Gallwch chi hefyd gysylltu â'r llwybr er mwyn cael trafodaeth gynnar i helpu i lunio cynigion.
Hyd astudio:
Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad Cychwynnol o Anghenion Datblygu pan gaiff y cais ei gyflwyno a dadansoddiad llawn cyn dyfarnu os bydd y cais yn llwyddiannus.
Gall yr astudiaeth bara rhwng tair blynedd a hanner a phedair blynedd a hanner amser llawn (neu gyfnod cyfatebol os yw'n rhan-amser) gan ddibynnu ar eich profiad ymchwil blaenorol.
Bydd Prifysgol Abertawe, ar y cyd â chydweithwyr yn YGGCC, yn asesu anghenion hyfforddiant ymgeiswyr llwyddiannus ac yn gweithio gyda nhw i deilwra'r hyfforddiant sy'n cael ei gynnig iddynt i ddiwallu eu hanghenion ymchwil. Gallai hyn fod ar ffurf cwrs Meistr llawn, neu gallai fod ar sail cyrsiau unigol wedi'u cynllunio i wella'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y maes astudio dan sylw.
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan WGSSS gwblhau lleoliad Ymchwil ar Waith a ariennir o 3 mis i gyd (neu gyfwerth rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliadau academia, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.
Cymhwyster
I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan yr ESRC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU.
Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol.
Mae'r Ysgoloriaeth ar agor i ymgeiswyr sy'n gymwys am ffïoedd y DU a ffïoedd rhyngwladol.
Mae ysgoloriaethau ymchwil YGGCC ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu'r gwahaniaeth rhwng ffïoedd i fyfyrwyr o'r DU a'r gyfradd ryngwladol. Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd UKRI.
Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.
Rydym yn croesawu ceisiadau i astudio'n amser llawn ac yn rhan-amser.
Cyllid
Gwerth y cyflog: Cyflog UKRI (£19,237 ar hyn o bryd).
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffïoedd dysgu, ac yn darparu cyflog byw, di-dreth, blynyddol yn unol â lleiafswm cyfraddau UKRI (sef £19,237 ar hyn o bryd).
Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.
Bydd gan fyfyrwyr fynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.
Gwerth: £940 (2024/25) y flwyddyn.
Sut i wneud cais
I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:
- Dewis Cwrs – dewiswch:
Cyfrifiadureg/ Ph.D./ Amser llawn / 3 Blynedd / Hydref
Cyfrifiadureg/ Ph.D./ Rhan-amser / 6 Blynedd / Hydref
Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.
- Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2025
- Cyllid (tudalen 8) -
- 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
- 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS704 - WGSSS 11'
*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.
Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.
SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i lenwi eich Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:
• Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) (ffurflen ar-lein)
Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.
Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost). Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu'r dogfennau ategol a restrir erbyn y dyddiad cau a hysbysebir. Sylwer, efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried heb y dogfennau a restrir:
- CV (dwy dudalen ar y mwyaf)
- Cynnig ymchwil (uchafswm o 1000 o eiriau) (ynghyd â chyfeiriadau llyfryddiaethol)
- Manylion am gymwysterau academaidd/proffesiynol ac unrhyw brofiad ymchwil perthnasol
- Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd
- Llythyr eglurhaol, hyd at ddwy dudalen.Rhaid i'r llythyr eglurhaol gynnwys yr is-benawdau a nodir yn atodiad 1 Canllawiau WGSSS 2024
- Dau eirda academaidd neu broffesiynol
- Tystiolaeth o fodloni'r gofyniad Iaith Saesneg (os yw'n berthnasol)
- Copi o fisa preswylydd y DU (os yw’n berthnasol)
- Cadarnhad o gyflwyno'r ffurflen Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Am ddisgrifiad llawn, cliciwch ar y ddolen i'r Saesneg.