Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2025

Gwybodaeth Allweddol

Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol

Darparwyr y cyllid: YGGCC YR ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50%

Y meysydd pwnc: Ysgoloriaeth Ymchwil YGGCC yr ESRC ar y Llwybr Cynllunio Amgylcheddol

Dyddiadau dechrau'r prosiect: 1 Hydref 2026 (bydd cofrestru ar agor o ganol mis Medi) **(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl).

Goruchwylwyr: Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ddyfarniad 'agored'. Dylai ymgeiswyr ystyried cysylltu â darpar oruchwyliwr cyn iddynt gyflwyno eu cais i gadarnhau bod goruchwyliwr ar gael yn y Brifysgol ac i drafod eu cais drafft. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar gael ar wefan Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan YGGCC yr ESRC. Mae'n bosib y bydd cynrychiolydd y llwybr yn Abertawe, Dr Cai Ladd, c.j.t.ladd@abertawe.ac.uk, yn gallu eich cynghori.

Arweinydd y Llwybr: Dr Christopher Muellerleile

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Cynllunio Amgylcheddol

Disgrifiad o'r prosiect:

Mae cynllunio amgylcheddol yn archwilio'r dimensiynau gofodol a'r prosesau gwneud penderfyniadau ar gyfer rheoli perthnasoedd yn gynaliadwy ymysg systemau naturiol a dynol a rhyngddynt. Mae'r llwybr hyfforddiant PhD rhyngddisgyblaethol hwn yn pontio'r gwyddorau cymdeithasol ac amgylcheddol naturiol. Mae'n canolbwyntio ar heriau amgylcheddol allweddol, a'u hamlygiad yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol, gan fyfyrio ar heriau polisi presennol llywodraeth Cymru a'r DU yn y sector amgylcheddol. Dyma rai enghreifftiau posib ond nid yw'r rhestr yn gynhwysfawr: effeithiau a rheoli newid yn yr hinsawdd; ansawdd amgylcheddol lleol a rhanbarthol; rheoli cadwraeth; a deddfwriaeth amgylcheddol ôl-Brexit.

Mae'r Adran Ddaearyddiaeth yn Abertawe yn lle bywiog a deinamig ar gyfer astudiaethau doethurol rhyngddisgyblaethol. Mae gan ein hacademyddion hanes hir o hyfforddi myfyrwyr PhD yn llwyddiannus ar gyfer gyrfaoedd yn y sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector, yn ogystal â'r byd academaidd. Mae gan ein staff ystod eang o arbenigedd sy'n greiddiol i'r llwybr hwn gan gynnwys meintioli a lliniaru newid yn yr hinsawdd, deinameg y dirwedd garbon, rheoli llifogydd, llygredd, rheoli peryglon amgylcheddol, lliniaru tân gwyllt, archeoleg amgylcheddol, systemau gwybodaeth ddaearyddol (GIS) a chymwysiadau synhwyro o bell, a daearyddiaeth ddiwylliannol, drefol, wleidyddol ac economaidd. Rydym yn gweithio mewn cydweithrediad agos â sefydliadau'r sector cyhoeddus a phreifat (e.e. DEFRA, Forest Research, Cyfoeth Naturiol Cymru, y Swyddfa Dywydd, Parciau Cenedlaethol y DU, Gwasanaethau Tân ac Achub, y Swyddfa Gartref, cwmnïau dŵr y DU a'r Sector Iechyd).

Fel rhan o'r YGGCC, mae'r llwybr Cynllunio Amgylcheddol wedi'i sefydlu ar gysylltiadau sefydliadol hirdymor rhwng Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor a'r Sefydliad Ymchwil Cefn Gwlad a'r Gymuned ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw. Mae'r adrannau'n cydweithio'n helaeth wrth oruchwylio myfyrwyr PhD, prosiectau ymchwil a hyfforddiant ôl-raddedig a ariennir yn allanol.

Darperir hyfforddiant drwy raglen gydlynus o fodiwlau unigol a phreswyl mewn dulliau gwyddorau cymdeithasol meintiol ac ansoddol, a chyfathrebu gwyddonol a chynhadledd ôl-raddedig i dyfu'r garfan gyda chyfranogiad ar draws y llwybr. Mae opsiynau ar gyfer hyfforddiant arbenigol yn cynnwys GIS a dadansoddi data gofodol, ymchwil meintiol uwch mewn SPSS, modelu trafnidiaeth, cyfrifo olion traed amgylcheddol, methodolegau labordai byw, ymchwil cadwraeth, technegau ymateb ar hap, dadansoddiadau cost effeithiol, modelu economaidd gofodol, a synhwyro lloeren a dronau o bell.

Cymhwyster

I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan yr YGGCC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU. Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol.

Yr Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Am ragor o wybodaeth, gweler Gofynion Iaith Saesneg - Prifysgol Abertawe.

Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffioedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt.

Mae ysgoloriaethau ymchwil YGGCC ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu'r gwahaniaeth rhwng ffioedd i fyfyrwyr o'r DU a'r gyfradd ryngwladol. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd UKRI.    

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffïoedd dysgu ac ariantal blynyddol di-dreth yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£20,780 ar gyfer 2025/26 ar hyn o bryd) ac mae'n cynnwys Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.

Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil. Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)

Sut i Wneud Cais

I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, drwy ddilyn y ddolen hon: Cwblhewch eich cais yma yn y Porth Dysgwr.

I gael eich ystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth hon, rhaid cymryd y camau canlynol hefyd.

1) Yn yr adran 'Gwybodaeth am y Rhaglen', nodwch Gôd yr Ysgoloriaeth Ymchwil berthnasol ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth h.y. RS890

2) Yn yr adran 'Ymchwil' byddwch chi'n gweld 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig'* (Gorfodol)

  • Yn yr adran 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig' nodwch:
  • y Côd, RS890 a
  • theitl yr ysgoloriaeth
  • Gadewch faes y Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag
  • Gadewch faes y Prosiect Ymchwil (os yw’n berthnasol) yn wag
  • Yn y maes 'Oes gennych chi gynnig i'w lanlwytho?*' (Gorfodol), dewiswch Oes
  • Yna lanlwythwch gopi o'r hysbyseb (gallwch gadw’r hysbyseb drwy glicio argraffu, ac yna ei argraffu i pdf)

3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am Gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Sicrhewch nad oes unrhyw opsiynau eraill yn cael eu dewis.

*Yr ymgeisydd sy'n gyfrifol am restru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau a gyflwynir heb yr wybodaeth uchod eu hystyried ar gyfer yr ysgoloriaeth.

Os ydych chi wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon o'r blaen, bydd y system yn dangos rhybudd "Cyflwynwyd Cais " ac yn gwahardd cyflwyniad newydd. Yn yr achos hwn:

Cyflwynwch gais am yr un cwrs â'r dyddiad dechrau nesaf sydd ar gael (e.e., dewiswch fis Ionawr os nad yw mis Hydref ar gael).

E-bostiwch pgrscholarships@swansea.ac.uk gan nodi eich rhif myfyriwr a chôd RS yr ysgoloriaeth berthnasol, a gofyn i'r dyddiad dechrau gael ei newid i gyd-fynd â'r hysbyseb.

Bydd y staff Derbyn Myfyrwyr yn diweddaru eich cais yn unol â hyn.

Mae angen cyflwyno un cais unigol am bob ysgoloriaeth ymchwil unigol a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru sawl dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe.

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen.  

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost):

  • WGSSS_Studentship_Application_Form_2026.pdf
  • CV
  • Tystysgrifau a Thrawsgrifiadau gradd (os ydych yn astudio am radd ar hyn o bryd, bydd sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol)
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol ar bapur â phennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirdaon Prifysgol Abertawe. Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n cynnwys cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi cyfeiriad e-bost eu swydd er mwyn dilysu'r geirda.
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
  • Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant

Asesu:  
Caiff ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr (ysgolion gynnwys gwybodaeth am y cyfweliad yma e.e. roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau panel

Hyd astudio:   
Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd yn llawn amser (neu gyfwerth rhan-amser).

Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a fydd yn cael eu hasesu trwy gwblhau Dadansoddiad Anghenion Datblygu. Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer astudiaeth amser llawn a rhan-amser.

Lleoliad gwaith ymchwil mewn ymarfer:   
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan YGGCC gwblhau lleoliad gwaith Ymchwil mewn Ymarfer wedi'i ariannu, a fydd yn para 3 mis (neu gyfwerth rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i gwblhau lleoliad gwaith yn y byd academaidd, polisi, busnes neu sefydliadau'r gymdeithas sifil.    

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:
Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dewis ceisiadau am ysgoloriaeth, efallai caiff data cais ei rannu â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd.

** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.